Home » 10fed taith yr Urdd a’r Mentrau Iaith i’r Wladfa
Cymraeg

10fed taith yr Urdd a’r Mentrau Iaith i’r Wladfa

AR YR 21ain o Hydref eleni, bydd 25 o aelodau Urdd Gobaith Cymru yn dilyn ôl traed tua 200 o aelodau eraill wrth gychwyn ar daith fythgofiadwy i Batagonia.

Dyma’r 10fed daith i’r Urdd a’r Mentrau Iaith ei threfnu ers 2008 a bydd y grŵp o bobl ifanc sydd rhwng 16 a 18 oed yn treulio pythefnos yn gwneud gwaith gwirfoddol yn y Wladfa a chael blas ar ddiwylliant unigryw’r gymuned hon ym mhen arall y byd sy’n rhannu’r un iaith â nhw.

Daw’r 25 lwcus o bob cwr o Gymru ac mae pob un wedi bod yn brysur yn ceisio codi arian i fynd ar y daith. Mae eu hymdrechion wedi amrywio o werthu coed tân dros y gaeaf i gynnal rasus ping pong; ac o drefnu cyngherddau mawreddog i godi £1.70 drwy ganu ar stryd y pentref!

Mae’r criw wedi cael cyfle i ddod ynghyd ddwywaith ar gyrsiau preswyl ym Mhentre Ifan ac yng Nglan-llyn er mwyn dod i adnabod ei gilydd cyn mynd ar y daith.

Dywedodd Hannah Wright, Cydlynydd Ail Iaith Cenedlaethol gyda’r Urdd ac un o drefnwyr y daith eleni, “Mae pob un o’r bobl ifanc wedi gweithio’n hynod o galed dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn codi’r arian oedd ei angen arnynt i fynd ar y daith. Maen nhw’n griw hyfryd a dw i’n siŵr y bydd hi’n daith fythgofiadwy i ni gyd. Mae Twm am ddod â’i iwcalili gydag e felly bydd digon o ganu ac adloniant!”

Ychwanegodd Siân Rogers, Cyfarwyddwr Gwaith Maes ac Ieuenctid y Gogledd Urdd Gobaith Cymru: “Rydym yn hynod falch o bartneriaeth yr Urdd gyda’r Mentrau Iaith er mwyn cynnig y cyfle arbennig hwn i’n haelodau yn flynyddol. Mae’n gyfle gwych i’r bobl ifanc gael blas ar ddiwylliant a bywyd yn y Wladfa a chael profiadau fydd yn aros yn y cof am byth.”

Author