Home » Ailddatblygu Porth Tywyn
Cymraeg

Ailddatblygu Porth Tywyn

[caption id="attachment_4768" align="alignright" width="288" class=" "]'Siomedig': Cyngor â gweithredu Llywodraeth Cymru. 'Siomedig': Cyngor â gweithredu Llywodraeth Cymru.[/caption] GOHIRIWYD gwneud penderfyniad ynghylch cynlluniau uchelgeisiol i ailddatblygu rhan helaeth o Borth Tywyn ar ôl i Lywodraeth Cymru ymyrryd ar yr funud olaf. Roedd disgwyl i gyfarfod Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin heddiw ystyried chwech o geisiadau cynllunio - am hyd at 230 o breswylfeydd ar hen safle Grillo, am seilwaith ar gyfer y safle hwnnw, am ddatblygiad â 134 o dai ger hen safle Grillo, am godi Ysgol Gynradd Gymraeg fyddai â lle i 330 o ddisgyblion a hynny oddi ar Deras Burrows, am ddatblygiad hamdden masnachol yn ardal Dwyrain Harbwr Porth Tywyn, ac am ardal gyflogaeth ger Teras Silver. Rhoddodd Eifion Bowen, y Pennaeth Cynllunio, wybod i'r cyfarfod ei fod wedi cael neges e-bost ddoe gan Lywodraeth Cymru a gyfeiriai at lythyr yn 2010 oedd yn rhoi cyfarwyddyd i'r awdurdod beidio â chymeradwyo cais Grillo. Roedd hyn yn ymateb i gais gan drydydd parti i alw'r ceisiadau i mewn. Yna, fore heddiw, ychydig cyn i'r Pwyllgor Cynllunio gyfarfod, cafodd Mr Bowen neges e-bost gan Lywodraeth Cymru a oedd yn gorchymyn i'r awdurdod lleol roi rhybudd ffurfiol yn unol ag Erthygl 18 nad oedd mewn sefyllfa i gymeradwyo unrhyw un o'r chwe chais, gan gynnwys y cais am ysgol. Dywedodd Mr Bowen wrth y Pwyllgor y gellid ystyried y ceisiadau ond, petai'r Pwyllgor o'u plaid, yr unig beth y gellid ei ddweud oedd bod bryd y Pwyllgor ar eu cymeradwyo. Y dewis arall oedd gohirio penderfynu ar y mater ac ymweld â'r safle sef yr hyn y penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio ei wneud. Bu’r mater hwn yn destun sylw ers amser maith, ac mae mapiau Llywodraeth Cymru yn dangos bod yr ardal yn agored i lifogydd ar un adeg. Roedd y Cyngor Sir wedi herio hyn ond nid oedd modd newid y mapiau mewn pryd er mwyn cynnwys yr ardal yn y Cynllun Datblygu Lleol. Mae'r Pwyllgor Cynllunio wedi penderfynu ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi ei bryder ynghylch pa mor fyr oedd y rhybudd a gafwyd cyn y cyfarfod, ac mae'n gofyn i'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden ysgrifennu llythyr ar wahân ynghylch y mater. Ar ôl y cyfarfod dywedodd Mr Bowen: "Bellach mae rheidrwydd cyfreithiol arnom i beidio â rhoi caniatâd, fel y gall y Gweinidog roi ystyriaeth ofalus i'r materion oedd wedi rhoi bod i'r hysbysiad atal. Mae llifogydd yn un o'r materion sy'n peri pryder."
'Siomedig': Cyngor â gweithredu Llywodraeth Cymru.
‘Siomedig’: Cyngor â gweithredu Llywodraeth Cymru.

GOHIRIWYD gwneud penderfyniad ynghylch cynlluniau uchelgeisiol i ailddatblygu rhan helaeth o Borth Tywyn ar ôl i Lywodraeth Cymru ymyrryd ar yr funud olaf.

Roedd disgwyl i gyfarfod Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin heddiw ystyried chwech o geisiadau cynllunio – am hyd at 230 o breswylfeydd ar hen safle Grillo, am seilwaith ar gyfer y safle hwnnw, am ddatblygiad â 134 o dai ger hen safle Grillo, am godi Ysgol Gynradd Gymraeg fyddai â lle i 330 o ddisgyblion a hynny oddi ar Deras Burrows, am ddatblygiad hamdden masnachol yn ardal Dwyrain Harbwr Porth Tywyn, ac am ardal gyflogaeth ger Teras Silver.

Rhoddodd Eifion Bowen, y Pennaeth Cynllunio, wybod i’r cyfarfod ei fod wedi cael neges e-bost ddoe gan Lywodraeth Cymru a gyfeiriai at lythyr yn 2010 oedd yn rhoi cyfarwyddyd i’r awdurdod beidio â chymeradwyo cais Grillo. Roedd hyn yn ymateb i gais gan drydydd parti i alw’r ceisiadau i mewn.

Yna, fore heddiw, ychydig cyn i’r Pwyllgor Cynllunio gyfarfod, cafodd Mr Bowen neges e-bost gan Lywodraeth Cymru a oedd yn gorchymyn i’r awdurdod lleol roi rhybudd ffurfiol yn unol ag Erthygl 18 nad oedd mewn sefyllfa i gymeradwyo unrhyw un o’r chwe chais, gan gynnwys y cais am ysgol.

Dywedodd Mr Bowen wrth y Pwyllgor y gellid ystyried y ceisiadau ond, petai’r Pwyllgor o’u plaid, yr unig beth y gellid ei ddweud oedd bod bryd y Pwyllgor ar eu cymeradwyo. Y dewis arall oedd gohirio penderfynu ar y mater ac ymweld â’r safle sef yr hyn y penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio ei wneud.

Bu’r mater hwn yn destun sylw ers amser maith, ac mae mapiau Llywodraeth Cymru yn dangos bod yr ardal yn agored i lifogydd ar un adeg. Roedd y Cyngor Sir wedi herio hyn ond nid oedd modd newid y mapiau mewn pryd er mwyn cynnwys yr ardal yn y Cynllun Datblygu Lleol.

Mae’r Pwyllgor Cynllunio wedi penderfynu ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi ei bryder ynghylch pa mor fyr oedd y rhybudd a gafwyd cyn y cyfarfod, ac mae’n gofyn i’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden ysgrifennu llythyr ar wahân ynghylch y mater.

Ar ôl y cyfarfod dywedodd Mr Bowen: “Bellach mae rheidrwydd cyfreithiol arnom i beidio â rhoi caniatâd, fel y gall y Gweinidog roi ystyriaeth ofalus i’r materion oedd wedi rhoi bod i’r hysbysiad atal. Mae llifogydd yn un o’r materion sy’n peri pryder.”

Author