Home » Lansio cyfres ddrama wleidyddol S4C yn y Senedd
Cymraeg

Lansio cyfres ddrama wleidyddol S4C yn y Senedd

A allai’r Senedd ddod yn fwy cyffrous nag ydyw yn barod?
A allai’r Senedd ddod yn fwy cyffrous nag ydyw yn barod?

CAFODD BYW CELWYDD , drama newydd wleidyddol S4C ei lansio yn Senedd Cymru yn yr union fan lle ffilmiwyd nifer o’r golygfeydd yn y gyfres rymus hon. Bydd y gyfres wyth pennod, sy’n dechrau ar S4C nos Sul, 3 Ionawr 2016 am 9.00, yn portreadu gwrthdaro rhwng newyddiadurwyr, ymgynghorwyr a gwleidyddion sy’n aelodau o bleidiau dychmygol ym Mae Caerdydd. Yn dilyn etholiadau, clymblaid sydd mewn grym, rhwng tair plaid sef Y Ceidwadwyr Newydd, Y Cenedlaetholwyr a’r Democratiaid gyda’r Sosialwyr yn wrthblaid.

Bydd y gyfres yn delio â straeon amserol a chyfoes, yn cynnwys problemau ym maes iechyd, addysg, llywodraeth leol a hawliau merched a materion polisi rhyngwladol i enwi dim ond rhai. Bydd sawl stori ddramatig wrth i’r newyddiadurwr, Angharad Wynne, a bortreadir gan yr actores Catherine Ayers, geisio darganfod amcanion gwleidyddol a phersonol y prif gymeriadau a bortreadir gan gast cryf o actorion profiadol.

Yn noddi’r lansiad yn y Senedd, ac yn annerch y gynulleidfa cyn y dangosiad oedd Llywydd y Cynulliad, Y Fonesig Rosemary Butler AC. Roedd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C hefyd yn annerch y gynulleidfa, cyn dangosiad pennod gyntaf Byw Celwydd. Croesawodd y Cynulliad griw Byw Celwydd i ffilmio mewn nifer o leoliadau o fewn yr adeilad. Caiff y ddrama ei ffilmio mewn nifer o leoliadau o amgylch Caerdydd a’r ardal, yn cynnwys Trebiwt, Dinas Powys a Phenarth. Mae’r ddrama wedi ei chreu gan y tîm llwyddiannus y tu ôl i gyfresi poblogaidd fel Teulu, a’r ffilm bwerus Ryan a Ronnie, sef y cynhyrchydd Branwen Cennard, a’r dramodydd profiadol Meic Povey.

Mae cwmni cynhyrchu Tarian hefyd wedi cydweithio gyda’r awdures Siân Naomi a’r cyfarwyddwyr Eryl Huw Phillips a Gareth Rowlands ar y gyfres hon. Mae’r cast hefyd yn un profiadol ac amryddawn, yn cynnwys Matthew Gravelle sydd wedi ymddangos ar gyfres boblogaidd ITV, Broadchurch a 35 Diwrnod, ynghyd â Catherine Ayers sydd wedi actio yn nrama ddiweddar S4C, Tir, ac actorion a gydnabyddir ymysg y gorau yn eu maes fel Sara Lloyd Gregory, Richard Elfyn, Eiry Thomas a Mark Lewis Jones. Yn ôl Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd mae hi’n addas iawn fod drama o’r fath yn cael premiere yn y Senedd.

“Cyfres ddrama gwbl ddychmygol yw Byw Celwydd, ond mae’r themâu a’r cymeriadau wedi’u hysbrydoli gan fodolaeth y Senedd, ein sefydliad democrataidd cenedlaethol yng Nghymru. Rydym yn falch iawn bod Llywydd y Senedd wedi ein gwahodd i ddod i’r adeilad eiconig yma i lansio’r gyfres, gan obeithio y bydd aelodau cynulliad, ynghyd a’r bobl sy’n eu hethol, yn mwynhau’r cynllwynio a’r cynllunio, y credu a’r caru, y gwirioneddau a’r celwyddau sydd wrth wraidd pob drama dda,” meddai Gwawr Martha Lloyd.

Author