Home » Alex Jones yn rhannu profiadau gyda mamau Cymru
Cymraeg

Alex Jones yn rhannu profiadau gyda mamau Cymru

MAE rôl y fam wedi newid yn sylweddol dros y ganrif ddiwethaf, ac mewn rhaglen ddogfen bersonol Alex Jones: Y Fam Gymreig, a ddarlledir ar S4C ar Sul y Mamau (11 Mawrth), mae cyflwynwraig boblogaidd sioe BBC The One Show, Alex Jones, yn datgelu bod cynnal cydbwysedd bywyd gwaith a bywyd cartref yn dipyn o her.

“Mae’r rhan fwyaf ohonon ni ferched yn mynd allan i weithio erbyn heddiw, ac fe es i ‘nol i’r gwaith dri mis ar ôl genedigaeth Ted. Roedd hwnna’n anodd, ac mae ffeindio’r balans rhwng fy ngwaith a bod yn fam yn anodd. Hyd yn oed ffeindio’r amser yn y bore i fwydo Ted cyn mynd i’r gwaith – mae’n anodd,” meddai Alex, a gafodd ei phlentyn cyntaf y llynedd, ac sy’n cyhoeddi ei llyfr, Winging It, sy’n trafod profiadau mamau, ym mis Ebrill.

Mae’r rhaglen yn cael ei darlledu fel rhan o dymor S4C o raglenni i ddathlu menywod yng Nghymru, a bydd Alex yn teithio ar hyd a lled y wlad yn sgwrsio â mamau Cymreig eraill, gan ofyn ‘A yw’n bosib cael y cyfan?’ Cwestiwn oesol ond un sy’n dal yn anodd ei ateb.

Y fam gyntaf i Alex ymweld â hi yw Mary, ei mam ei hun, sy’n rhannu ei phrofiadau am sut mae pethau wedi newid dros y blynyddoedd. A hithau’n 25 oed yn rhoi genedigaeth i Alex, roedd yn cael ei chysidro’n “fam hŷn” ddeugain mlynedd yn ôl, ac arhosodd gartref gydag Alex a’i chwaer am bum mlynedd, tra bu’n rhaid i’w gŵr ddychwelyd i’r gwaith mor fuan â diwrnod wedi’r enedigaeth. Ei chyngor magu i unrhyw fam yw, “Ffeindiwch eich ffordd eich hun; mae pawb yn ffeindio’u traed.”

Un sy’n profi’r her o fod yn fam i’r eithaf yw Jen, sydd, gyda’i gŵr Rob, yn magu naw o blant ger Llanrug, Caernarfon. Gyda’r plentyn hynaf newydd droi’n 17 a’r ieuengaf yn saith mis oed, mae Alex yn clywed am y realiti o fagu teulu mor fawr, gyda’r plant yn llowcio’u ffordd drwy ddeg torth bob wythnos, ac yn yfed wyth peint o laeth bob dydd!

Ymhlith y mamau eraill y bydd Alex yn cwrdd â nhw mae Sandra o Benygroes ger Rhydaman sy’n gofalu am ei merch Marie, a gafodd ei geni gyda’r cyflwr parlys yr ymennydd neu Cerebral Palsy. Mae’n holi Angharad o Gaerdydd a oes stigma ynghlwm â bod yn fam sengl. Mae’n darganfod pam y penderfynodd Heulwen, mam o Dderwen Las ger Machynlleth sefydlu’r blog ‘Mam Cymru’. Bydd Alex hefyd yn cwrdd â chriw o famau sy’n magu eu plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn Llundain ac yn clywed am siwrnai anarferol Elin yn dod yn fam i Caitlin, sydd bellach yn ei harddegau.

Er mai ar famau mae canolbwynt y rhaglen, dydy rôl y fam ddim yn ddibynnol ar eich rhyw. Mae Alex yn cwrdd ag Alan sy’n llenwi rôl y fam a’r tad yn ei deulu ef. Wrth dyfu i fyny, roedd yn ymwybodol nad oedd cyfle i bobl hoyw fel yntau ddod yn rhieni ar y pryd. Ond mae’n cofio’r teimlad arbennig a gafodd pan fabwysiadodd ei fachgen bach yn ddiweddar.

“Roedd o’n teimlo’n hollol naturiol o’r dechrau. Rydw i’n dangos iddo dy fod di’n gallu gwneud unrhywbeth; mae’n ok i fod yn wahanol; mae’n ok i fod yn ti dy hun.”

Author

Tags