Home » Taith emosiynol yn Zimbabwe
Cymraeg

Taith emosiynol yn Zimbabwe

MAE Zimbabwe wedi dioddef mwy na’i siâr o boen a helynt dros yr hanner canrif ddiwethaf, ac ym mis Tachwedd, ar ôl degawdau wrth y llyw, cafodd yr unben Robert Mugabe ei orfodi i ildio ei rym.

Mewn rhaglen ddogfen arbennig gan BBC Cymru nos Iau, 5 Ebrill ar S4C, Zimbabwe, Taid a Fi, cawn ddilyn taith Seren Jones, sy’n newyddiadurwr gyda’r BBC World Service yn ôl i Zimbabwe, y wlad lle cafodd ei mam ei geni a’i thaid, Sekuru, ei gladdu.

Wrth ddod i adnabod ei theulu yn Affrica’n well a dysgu mwy am ei thaid, mae Seren yn ceisio deall y wlad yma sydd mor annwyl iddi hi a’i theulu. Un cwestiwn mawr sydd ar ei meddwl – ai’r Arlywydd newydd, Emmerson Mnangagwa, neu’r ‘Crocodeil’ i’w elynion, yw’r dyn i arwain y wlad at ddyfodol gwell? A fydd modd iddo wireddu breuddwyd Sekuru ac adeiladu’r genedl mae’r bobl yn ei haeddu?

“Ro’n i’n awyddus i wneud y rhaglen gan ei fod yn foment hanesyddol i bobl Zimbabwe,” meddai Seren, 23, gafodd ei magu yn Llundain, Caerdydd a Seland Newydd, ac sydd bellach yn gweithio yn Llundain.

“Am y tro cyntaf ers annibyniaeth roedden nhw am gael arlywydd newydd, ac ro’n i eisiau gweld pa effaith roedd hynny am gael ar bobl y wlad a phobl sy’n byw y tu allan i’r wlad, fel fy nheulu i yng Nghymru. Dyma gyfle i gael taith bersonol i weld fy nheulu ac i ffeindio allan mwy am fy nhaid.”

Symudodd taid Seren, Sekuru, ei deulu i fyw i Lundain ddechrau’r 1970au, lle’r oedd yn llefarydd i’r Blaid Zanu-PF. Roedd yn rhan o’r frwydr dros ryddid yn erbyn y lleiafrif gwyn oedd yn rheoli’r wlad – Rhodesia – fel y’i galwyd yr adeg honno. Dychwelodd i’w wlad enedigol pan ddaeth annibyniaeth a throdd ei gefn ar wleidyddiaeth i ffermio.

Un o uchafbwyntiau’r daith i Seren oedd siarad gydag aelodau o’i theulu i ganfod mwy am y gŵr arbennig hwn. “Nes i ond cwrdd â ‘nhaid unwaith pan o’n i’n 4 oed; doedd gen i ddim cof ohono, felly roedd hynny’n brofiad emosiynol iawn i mi. Rhan gofiadwy arall o’r daith oedd cael siarad â phobl fyddwn i byth wedi cwrdd â nhw fel arall, fel Peter, oedd yn aelod o fyddin Rhodesia. Roedd hynny’n anhygoel, oherwydd yn tyfu fyny, roedd gen i ryw fath o perception o bobl Rhodesia, a wnaeth o debuncio’r hyn o’n i’n ei gredu yn llwyr. Cafodd bywydau eu dinistrio ar y ddwy ochr ac mae’r effeithiau’n dal i’w gweld heddiw.”

Er gwaethaf creithiau’r gorffennol, mae awgrym o dro ar fyd erbyn hyn. “Nes i sylwi bod lot o newidiadau wedi digwydd yn Zimbabwe ers y tro diwethaf i mi fod yno,” meddai Seren. “Dwi’n cofio’r ddau dro diwethaf aethon ni yno ro’dd wastad heddlu ar y ffordd yn cymryd arian neu’n trio’ch breibio chi am ba bynnag reswm. Y tro yma doedd dim heddlu ar y ffyrdd o gwbl – ac roedd WiFi yn y maes awyr…dwi ddim yn cofio cael WiFi yno y tro diwethaf!

“Dwi’n gobeithio gwnaiff y rhaglen roi ryw fath o bersbectif i bobl Cymru am ran arall o’r byd sydd ddim i’w gweld yn y cyfryngau lot; neu sydd wastad yn cael ei bortreadu yn negyddol.”

Author

Tags