Home » Antur yr Andes
Cymraeg

Antur yr Andes

Tomos a Tomos: I Batagonia neu i’r wal!
Tomos a Tomos: I Batagonia neu i’r wal!

POB LWC i ddau o brif swyddogion yr ysgol sef Tomos Evans a Tomos Salmon wrth iddynt deithio i’r Wladfa, Patagonia yn ystod hanner tymor yr hydref 2016.

Dewiswyd y ddau i gynrychioli Sir Benfro a Chymru ar daith yr Urdd yn y gefeillio sy’n digwydd ers ryw rhai blynyddoedd bellach.

Bydd y ddau yn cyd-deithio gyda Ffion Phillips o Sir Benfro a swyddogion yr Urdd. Llwyddodd y ddau i godi’r arian angenrheidiol ar gyfer y daith trwy gynnal nifer o weithgareddau megis tê prynhawn, cyngerdd amrywiol , taith gerdded ac ati.

Mae Ysgol Bro Gwaun hefyd wedi cyfrannu at gostau’r ddau drwy nawdd cynllun Tim Noot , a thrwy gynnal diwrnod allan o wisg ysgol.

Derbyniodd y ddau Tomos siec o £200 ar ran yr ysgol i’w ddosbarthu i’r ysgolion y byddant yn ymweld â hwy allan ym Mhatagonia sef Ysgol Trelew, Ysgol yr Andes ac Ysgol Gymraeg y Gayman. Fe fydd y daith yn sicr yn un fythgofiadwy i’r ddau ac edrychwn ymlaen i glywed yr holl straeon fis Tachwedd.

Pob lwc Tomos a Tomos!

Author