Home » £14.5m ar gyfer 66 o brosiectau teithio llesol
Cymraeg

£14.5m ar gyfer 66 o brosiectau teithio llesol

MAE Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, wedi cyhoeddi sut bydd £14.5 miliwn o fuddsoddiadau mewn teithio llesol yn cael ei wario ledled Cymru.
Mae teithio llesol yn golygu defnyddio dulliau corfforol weithgar i wneud siwrneiau. Bydd y cyllid yn gwella ac yn creu llwybrau a chyfleusterau teithio llesol yng Nghymru, fel rhan o ymdrechion i annog rhagor o bobl i gerdded a beicio.
Roedd y Dirprwy Weinidog wedi galw ar awdurdodau lleol i fod yn radical ac yn uchelgeisiol yn eu gwaith i wella teithio llesol. Galwodd am gynigion sy’n mynd ymhellach wrth greu seilwaith i alluogi pobl i ddewis cerdded a beicio fel y ffordd fwyaf naturiol i wneud siwrneiau byrrach.
Bydd cyfanswm o 66 o brosiectau teithio llesol, yn ogystal â chwe chynllun aml-ddull ar eu hennill. Mae’r rhain yn cynnwys:
· £1,200,000 ar gyfer Pont Abertawe Ganolog: i gefnogi’r gwaith o adeiladu pont droed newydd rhwng datblygiad Abertawe Ganolog ac Arena Canol y Ddinas.
· £1,050,000 ar gyfer Cynllun Meistr Llanelli: i gymryd y cam cyntaf yn y gwaith o greu llwybr cyd-ddefnydd drwy ganol Llanelli sydd ar y cyfan yn rhydd rhag traffig.
· £900,000 ar gyfer datblygu cynllun a gwaith ar raddfa fach yn Rhondda Cynon Taf: i gyflawni mesurau sy’n cynnwys Pont Teithio Llesol Brook Street, ac i uwchraddio’r rhwystrau a’r llwybr ar Daith Cynon a Thaith Taf.
· £407,000 ar gyfer y llwybr cyd-ddefnydd rhwng IBERS a Phenrhyn-coch yng Ngheredigion: i adeiladu llwybr 1km o hyd rhwng yr orsaf newydd a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth.
· £256,000 ar gyfer y cynllun rhwng Stryd yr Eglwys a’r A548 yn y Fflint: i greu cyfleusterau beicio gwell rhwng Gorsaf Drenau’r Fflint, Ystad Ddiwylliannol Aber, Llwybr Arfordir Cymru, Llwybr 5 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a Chastell y Fflint.
Mae £1,688,500 ar gyfer Promenâd Hen Golwyn yng Nghonwy eisoes wedi cael ei gadarnhau. Defnyddir y cyllid hwn i wella cyfleusterau teithio llesol, ar yr un pryd ag amddiffyn y seilwaith rhag cael ei ddifrodi neu ei ddinistrio gan erydu arfordirol.
Mae’r buddsoddiad o £14.5 miliwn yn rhan o’r ail rownd o gyllid cyfalaf gan Gynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru eleni. Mae hyn yn dod â chyfanswm y cyllid grant mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i gynlluniau teithio llesol yn 2019/20 i dros £40 miliwn.
Dwedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Rydyn ni’n wynebu argyfwng hinsawdd, epidemig gordewdra ac mae ansawdd ein haer yn wael dros ben – gall teithio llesol ein helpu i fynd i’r afael â phob un o’r rhain.
“Ledled Cymru mae’n rhaid inni wneud pethau’n wahanol. Dw i wedi bod yn glir am yr angen i feddwl ar raddfa fawr, bod yn uchelgeisiol a gweithredu mewn modd radical. Mae’r prosiectau hyn yn gam yn y cyfeiriad iawn i wneud y newid sydd ei hangen, a byddwn ni’n parhau i fuddsoddi yn helaeth i sicrhau mai teithio llesol yw’r dewis amlwg ar gyfer rhagor o siwrneiau yng Nghymru.”

Author