Home » Cân Yr Adar
Cymraeg

Cân Yr Adar

screen-shot-2016-11-01-at-13-43-47MAE BIRDSONG/Cân Yr Adar yn gydweithrediad newydd sbon rhwng pianydd a chyfansoddwr jazz Gwilym Simcock, ag artist Cymraeg/Bajan Kizzy Crawford, gydag ensemble cerddorfa siambr arweiniol Cymru, Sinfonia Cymru.

Prosiect sydd wedi’i ysbrydoli gan fforest law Celtaidd Cymru – RSPB Carngafallt. Mae’r sioe sydd wedi’i chreu mewn partneriaeth ag RSPB Cymru, yn teithio o amgylch theatrau ledled Cymru ym mis Tachwedd, gyda pherfformiad hefyd yng Ngŵyl Gelfyddydau Hampstead a Gŵyl Jazz Llundain EFG.

Mae gwarchodfa natur RSPB Carngafallt, tiriogaeth goedwig law Geltaidd Cymru i’w weld ger Powys, ac mae’n gartref i ecosystemau cymhleth sy’n ffurfio rhai o gynefin coetir mwyaf trawiadol y wlad. Bydd Birdsong / Cân Yr Adar yn cynnig seiniau a delweddau unigryw i ddathlu popeth sy’n brydferth am ein hamgylchedd naturiol, a dod â bywyd gwyllt Cymru i’r llwyfan drwy berfformiad cerddorfaol byw, yn ffiwsio ‘soul’, gwerin, clasurol a jazz.

Dywedodd Kizzy Crawford, a fu’n perfformio yn ddiweddar yng ngwobrau BAFTA Cymru: “Rwyf eisoes wedi defnyddio trosiadau natur wrth ysgrifennu caneuon, ac yn creu rhythmau a riffs yn fy meddwl o oedran ifanc, gan fy mod yn gwylio anifeiliaid ac adar. Wnes i erioed ystyried mewn gwirionedd unrhyw ffordd arall o ysgrifennu caneuon pan ddechreuais allan, gyda llawer o fy nghaneuon yn ymwneud ag adar, anifeiliaid a phryfed – o leiaf, dyna un ffordd o ddeall y geiriau, oherwydd fy mod fel arfer yn ysgrifennu am deimladau neu brofiadau.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru RSPB, Katie-Jo Luxton: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Gwilym, Kizzy a Sinfonia Cymru i fynegi bywyd gwyllt arbennig sydd yn RSPB Carngafallt. Niwlog, atmosfferig a chyfoethog o ran eu natur, mae coed derw’r warchodfa yn gartref i rai o’n rhywogaethau mwyaf gwerthfawr – o’r Dincoch a Telor y Coed i Fwncath a Hebog ‘Peregrine.’

“Mae natur yn fyw gyda chaneuon hardd a synau; a thrwy ddod a’r alawon hyn i’r llwyfan y gallwn wirioneddol ddathlu ein gwreiddiau Celtaidd.”

Author