Home » Steffan yn cipio Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2016
Cymraeg

Steffan yn cipio Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2016

screen-shot-2016-11-01-at-13-44-38‘TRI CHYNNIG i Gymro’ medden nhw, ac ar nos Sul, Hydref 16 fe brofodd hynny yn wir i Steffan Hughes o Sir Ddinbych wrth iddo gipio Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2016 mewn noson wefreiddiol yn Y Stiwt,

Rhosllannerchrugog. Noddir y wobr eleni gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant.

Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth gwerth £4,000 i Steffan o flaen cynulleidfa’r Stiwt, ac yn fyw ar raglen arbennig ar S4C.

Y gystadleuaeth oedd penllanw gweithgareddau Eisteddfod yr Urdd eleni.

Disgrifiodd y pump beriniad Ann Atkinson, Owain Llwyd, Gwennan Gibbard, Meinir Siencyn ac Ann Fychan berfformiad Steffan fel un cyfareddol. Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych ac Ysgol Glan Clwyd mae bellach yn astudio cwrs BMus ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd gofyn i Steffan a’i gyd-gystadleuwyr greu rhaglen berfformio 12 munud o hyd ar gyfer y noson. Dewisodd Steffan gynnwys ‘Cyrraedd Pen y Siwrnai’ (‘I can go the Distance’) allan o’r ffilm ‘Hercules’ gan Alan Menken (cyfieithiad Steffan Rhys Hughes), ‘Nid fi yw mab fy Nhad’ (‘I’m not my father’s son’) allan o’r sioe ‘Kinky Boots’ gan Cynthia Lauper (cyfieithiad Steffan Rhys Hughes), ‘Mae gen i Freuddwyd’ gan Gwyn Thomas ar gainc ‘Tannau Tawe 02’ gan Elfair Jones (Alaw gan Dr Meredydd Evans a threfniant cerddorol gan Steffan Rhys Hughes, a ‘Ti go iawn’ (‘Brand New You’) allan o’r sioe ‘Musical 13’ gan Jason Robert Brown (cyfieithiad Elin Williams) yn ei berfformiad wedi derbyn cyngor gwych gan y gantores enwog, Siân James, mewn dosbarthiadau meistr a gynigiwyd i bob un o’r cystadleuwyr fel rhan o’r gweithgareddau paratoi ar gyfer yr Ysgoloriaeth.

Dywedodd Steffan: “Roedd yn wych cael cystadlu heno, gan gael y cyfle i ddewis darnau fy hun a cheisio rhywbeth ychydig yn wahanol gyda’r darn Cerdd Dant. Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill o gwbl gan mod i wedi bod yna ddwywaith o’r blaen a heb ennill! Mi oedd pawb mor dda heno – hollol ffantastig.

Gydag arian yr Ysgoloriaeth rwyf yn gobeithio datblygu fel perfformiwr gan ddefnyddio’r arian i dalu am hyfforddiant pellach a gwersi.”

Yn ôl Dyfrig Davies, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a’r panel o feirniaid ““Roedd safon y gystadleuaeth heno yn aruchel gyda phob un ohonyn wedi ein cyffwrdd mewn rhyw ffordd. Mi oeddem ni yn chwilio am gyfanwaith a dyna beth a gafwyd gan Steffan – mi oedd yr amrywiaeth a’r dyfeisgarwch yn ei raglen yn wych.

“Mae’r Ysgoloriaeth hon yn rhoi cyfle nid yn unig i ni anrhydeddu unigolyn, ond hefyd i chwech perfformiwr ifanc arddangos eu talentau. Mae’n brawf o gyfoeth y bobl ifanc sydd gennym fel cenedl.”

online casinos UK

Dywedodd Aled Siôn Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, “Unwaith yn rhagor eleni rydym wedi profi bod cyfoeth talent anhygoel ymysg pobl ifanc Cymru. Cawsom Eisteddfod wych yn Sir y Fflint yn ôl ym mis Mai, a dyma ni yn cau pen y mwdwl ar weithgareddau’r ŵyl yma yn Y Stiwt gyda chyngerdd wefreiddiol yr Ysgoloriaeth uchel ei bri hon.

“Pob hwyl i Steffan wrth iddo ddatblygu ei yrfa gyda help yr Ysgoloriaeth, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at glywed sut fydd yr hwb yma yn ei helpu i’r dyfodol.”

Ychwanegodd Gwilym Dyfri Jones, Pro Is-Ganghellor Cysylltiol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, “Llongyfarchiadau gwresog i Steffan ar ei lwyddiant a hefyd i’r cystadleuwyr i gyd ar safon eu perfformiadau. Mae Ysgoloriaeth Bryn Terfel wedi sefydlu ei hun fel cystadleuaeth sy’n annog pobl ifanc i fentro yn eu gwahanol ddisgyblaethau i anelu’n uchel. Mae’n gystadleuaeth bwysig sy’n meithrin doniau pobl ifanc yng Nghymru ac mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o’i chefnogi.”

Author