Home » Cerddwyr Cylch Teif
Cymraeg

Cerddwyr Cylch Teif

YM MIS Mawrth, buon ni yn ardal Nanhyfer a Llwyngwair gyda Tony Haigh yn arwain y daith gylch. Gwelon ni Eglwys Nanhyfer, yr ywen waedlyd a’r groes Geltaidd yn y fynwent, Castell Nanhyfer (lle bu llawer o waith cloddio yn ddiweddar), croes y pererinion, a chlywsom hanes Llwyn-gwair wrth gerdded heibio. Aeth rhai ohonom i sychu, cymdeithasu a chael lluniaeth yn Nhafarn Tre-wern wedyn. Er gwaethaf y glaw, cytunodd pawb ei fod yn daith ddymunol o ran y llwybrau a’r cwmni, ac yn un ddiddorol iawn o ran hanes yr ardal.

Llethrau Carn Ingli fydd ein cyrchfan 14eg Ebrill, a Ruth Sharpe a Judith Wainwright yn arwain. Byddwn yn gadael y llecyn parcio ger Cilgwyn (SN070 373) am 10:30yb.

I ddod o hyd iddo, ar ôl tua hanner milltir ar y ffordd fach o Drefdraeth at Gilgwyn trowch i’r dde a dilyn yr heol fferm ar hyd y mynydd am ryw 300 metr, neu gallwch weld map ar: tinyurl.com/parciocarningli . Bydd yn daith ddwy awr tua 2.5 milltir mewn cylch clocwedd i gyd ar draciau dwyreiniol a gogleddol Carn Ingli heb ddringo’r llethrau serth. Cyfanswm yr esgyniad fydd tua 330 troedfedd a fydd dim sticlau. Bydd rhannau yn weddol fwdlyd dan draed, yn enwedig wrth groesi’r nentydd bychain. Bydd digon i’n diddori: olion ein cynhanes ar y mynydd yn enwedig y cytiau cylch niferus; ffermio heddiw; a golygfeydd eang ac amrywiol. Ar ôl y daith, gallwn gymdeithasu dros luniaeth ac mae dewis da yn Ndraeth, yn enwedig caffis ‘Blas’ a ‘Tides’ ar Heol y Farchnad, a Gwesty’r Castell ar y briffordd.

Ddydd Sadwrn 12fed Mai awn i Goed y Foel, Llandysul, a’r arweinwyr fydd Lesley Parker a Dee McCarney. Byddwn yn gadael maes parcio Llandysul (SN418 406) (Cod post SA44 4QP) am 10.30, gan rannu ceir i’r man cychwyn gerllaw. Awn ar daith gylch ddwy awr tua dwy filltir, i gyd ar lwybrau y tu mewn i Warchodfa Natur Coed Cadw. Mae’r warchodfa mewn cwm siâp ‘V’ a gwnawn ddringo’r llethr ar naill ochr y cwm, disgyn i’r gwaelod, a dringo rhan o’r llethr ochr arall y cwm cyn dychwelyd i’r man cychwyn. Ni fydd sticlau ond bydd esgyniad o ryw 460 troedfedd a’r llethrau yn weddol serth mewn mannau. Cawn fwynhau’r goedwig gollddail yn ei llawn ogoniant ganol y gwanwyn; adar yn canu nerth eu pennau; clychau’r gog a blodau eraill y gwanwyn. Dysgwn am ofal Coed Cadw am y safle, am ardal mam Owain Glyndŵr, ac am Gaer Pen Coed y Foel. Bydd cyfle wedyn i gymdeithasu dros luniaeth yng Ngwesty’r Porth yn Llandysul.

Bydd croeso i bawb ar bob taith. Os nad ydych wedi cerdded gyda ni o’r blaen, neu os hoffech ragor o fanylion neu i fod ar y rhestr bostio, cysylltwch â [email protected] 01239 654561

Dyddiadau:

14 Ebrill: Carn Ingli
Gadael y maes parcio wrth odre dwyreiniol Carn Ingli ger Cilgwyn (SN070 373) (tinyurl.com/parciocarningli) am 10.30yb.
Arweinwyr: Ruth Sharpe a Judith Wainwright

12 Mai: Coed y Foel, Llandysul
Gadael maes parcio Llandysul (SN418 406) (Cod post SA44 4QP), gan rannu ceir, am 10.30yb.
Arweinwyr: Lesley Parker a Dee McCarney

9 Mehefin: Ardal Preseli
Gadael man yn ymyl Dan y Garn (SN126 307) (ardal Cod post SA66 7SN), tua 1km i’r Gorllewin o Gofeb Waldo, am 10.30yb.
Arweinydd: Dafydd Davies

Author

Tags