Home » Croeso cynnes i ddysgwyr yn Tafarn Sinc
Cymraeg

Croeso cynnes i ddysgwyr yn Tafarn Sinc

MAE Tafarn Sinc wastad yn annog cwsmeriaid i siarad Cymraeg ac yn arbennig y sawl sy’n ymroi i ddysgu’r iaith.

Mae’r staff yn barod i’w cynorthwyo a rhoi hyder iddyn nhw. Pwy gerddodd i mewn amser cinio pwy ddiwrnod yn cario copie o’r gwerslyfr Cwrs Mynediad, o dan eu ceseiliau, ond Gretta Marshall o Gilgeti a Grace Mizen o Tredeml. Wel, mae’r ddwy o Gaerdydd yn wreiddiol a heb gael y cyfle i ddysgu’r iaith yn yr ysgol na chwaith ei chlywed yn y gymuned.

Pam dysgu’r iaith te Grace?

“Wel, achos bo fi’n Gymraes. Sdim ishe mwy o reswm na hynny,” oedd yr ateb pendant.

Pam dod i Tafarn Sinc te Gretta? “Wel, achos yr awyrgylch. I ni ishe clywed yr iaith,” meddai Gretta gan chwilio am air arall yn ei gwerslyfr.

“Mae mor galonogol i fynd rhywle lle mae croeso Cymraeg i gael. Ac mae ‘Say Something in Welsh’ yn help mawr hefyd”, ychwanegodd.

Mae’r ddwy yn ceisio denu dysgwyr i ymarfer eu Cymraeg llafar yn un o dafarndai Cilgeti. Ond mae’n lled debyg y byddan nhw’n ffeindio eu ffordd i Rhos-y-bwlch yng nghanol y Preselau yn gyson o hyn mlân.

A dweud y gwir o’u clywed yn toethan p’un ohonyn nhw fydde’n debyg o fynd â’r gweinydd ifanc penfelyn, serchog, adref gyda nhw, ma’ nhw’n siŵr o ddychwelyd!

Fe wna Tafarn Sinc ei ran i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Author

Tags