Home » Cerddwyr Cylch Teifi
Cymraeg

Cerddwyr Cylch Teifi

ER GWAETHAF y rhagolygon gwael a chawodydd trwm, cafodd ugain Cerddwr dewr daith arbennig iawn gyda Dafydd Davies yn ardal Cwm Alltcafan, Pentre-cwrt ym mis Tachwedd. Roedd y coed hydrefol a’r ‘afon ddofn’ yr un mor hardd â’r Cwm ym mis Mehefin yng ngherdd enwog T.Llew Jones. Dysgon ni am yr hen reilffordd, cerdded trwy hen dwnnel, a chlywed am y ffatrïoedd gwlân. Aeth rhai ohonom ymlaen wedyn i gymdeithasu dros luniaeth yn Nhafarn y Daffodil.
Fis Rhagfyr 14eg, bydd Howard Williams yn ein harwain ar Aber Afon Teifi, gan adael maes parcio’r Jiwbilî rhwng Patch a Gwbert (SN163 493; Cod post SA43 1PP) am 10.30yb. Byddwn yn dilyn taith gylch o ryw ddwy awr a 2.75 milltir. Awn wrth ochr yr heol trwy Gwbert a lan y bryn i gyfeiriad y Ferwig, ar hyd y ffordd tuag at y Clwb Golff, dros y cwrs ar lwybr cyhoeddus, lawr i Waungelod a Nant y Ferwig ac yn ôl ar hyd yr heol. Mae palmant neu lwybr ar gael wrth ochr yr heol hon drwy gydol y daith. Bydd esgyniad o ryw 270 troedfedd ond ddim sticlau. Bydd ychydig o fwd ar ran fechan o’r daith. Bydd y pwyntiau o ddiddordeb yn cynnwys New Brighton; Plasty Towyn a’r beirdd; Ynys Aberteifi, ei llygod a’i llongddrylliadau; bywyd gwyllt yr aber; Pen yr Ergyd; a golygfeydd trawiadol. Gallwn gymdeithasu dros luniaeth wedyn yng Ngwesty Gwbert (wrth y fynedfa sy’n arwain at faes parcio Gwesty’r Cliff.)
Yn y flwyddyn newydd, dydd Sadwrn 11 Ionawr 2020, bydd Gareth a Mer Evans yn ein harwain yn ardal Hermon a’r Glog. Byddwn yn gadael maes parcio Capel Hermon, Hermon (ger Crymych) (SN 211 319; Cod Post SA36 0DS) am 10:30. Awn ar daith glocwedd hamddenol o ryw 2 filltir ar ffyrdd caled; cerddwn i lawr i’r Glog, trwy’r pentref, lan i heol dawel arall sy’n dod â ni’n ôl i’r man cychwyn. Fydd dim sticlau na llethrau serth. Cawn glywed am Chwarel y Glog, mwyngloddiau plwm Llanfyrnach, a’r rheilffordd.
A bydd cyfle i gymdeithasu dros luniaeth wedyn yng Nghegin Bella, Canolfan Hermon.
Darllenwch fanylion y teithiau i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol; dewch â dillad addas, yn enwedig esgidiau sy’n gymwys i dir gwlyb ac anwastad; a chymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded ar hyd ffyrdd heb balmant neu ar lethrau serth. Os nad ydych chi wedi cerdded gyda ni o’r blaen, cysylltwch i gael y manylion llawn ac i ddod ar y rhestr bostio: [email protected] 01239 654561
Manylion bras ein teithiau nesaf:
D.S. Dylai’r codau post fod yn agos i’r lle iawn, ond yn aml ni fyddant yn dangos yr union le.
14 Rhagfyr: Aber Afon Teifi
Gadael maes parcio’r Jiwbilî rhwng Patch a Gwbert
(SN163 493; Cod post SA43 1PP) am 10.30yb.
Arweinydd: Howard Williams
11 Ionawr: Hermon / Y Glog (ger Crymych)
Gadael maes parcio Capel Hermon, Hermon
(SN211 319; Cod post SA36 0DS) am 10.30yb.
Arweinwyr: Gareth a Mer Evans
8 Chwefror: Ardal Abergwaun
Gadael maes parcio’r dref, Y Wesh (tâl)
(SM 954371; SA65 9NG) am 10.30yb.
Arweinydd: Siân Bowen

Author