Home » Cig Eidion Cymru PGI yn chwilio am Dirmon y Flwyddyn
Cymraeg

Cig Eidion Cymru PGI yn chwilio am Dirmon y Flwyddyn

DATHLU’R arwyr di-glod sy’n cynnal a chadw caeau chwaraeon Cymru boed law neu hindda.

Fel rhan o’i gefnogaeth barhaus dros rygbi cymunedol, mae Cig Eidion Cymru PGI yn lansio Gwobrau Tirmon y Flwyddyn. Nod y gwobrau yw tynnu sylw at arwyr di-glod camp boblogaidd ein gwlad lle bydd un unigolyn lwcus yn cael y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu gyda thlws Tirmon y Flwyddyn ynghyd â gwerth £500 o ddillad awyr agored.

P’un a ydych yn trin darn bach o laswellt â manylder arbennig neu’n brwydro drwy bob tywydd i sicrhau y gellir chwarae ar gae yn y gaeaf – mae Cig Eidion Cymru PGI am glywed gennych chi!

Yn beirniadu’r gwobrau fydd un o chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru, Dan Lydiate, sydd wedi cael y pleser o chwarae ar rai o gaeau rygbi gorau’r byd, Len Smith, cyn-brif dirmon Clwb Criced Morgannwg, a Charlie Morgan, ymgynghorydd glaswelltir. Ar y cyd, mae gan y tri yma brofiad o’r hyn sy’n creu’r cae perffaith – o’r technegau gorau ar gyfer tyfu a chynnal a chadw glaswellt i’r hyn y mae chwaraewr am ei gael ohono.

Meddai Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu’r Farchnad yn Hybu Cig Cymru (HCC): “Yma yng Nghig Eidion Cymru PGI, rydym yn gwybod pwysigrwydd glaswellt o safon. Mae ffermwyr yng Nghymru wedi gwybod am genedlaethau os ydych yn gofalu am yr amgylchedd, bydd yr amgylchedd yn gofalu amdanoch chi. A dyna’r gyfrinach y tu ôl i ganrifoedd o arferion ffermio cynaliadwy sydd wedi gwneud Cymru’n gynhyrchydd cig oen a chig eidion o safon.”

“Ar y cae, fel ar y fferm, mae rheolaeth dymhorol yn hanfodol ar gyfer cael glaswellt o safon drwy’r flwyddyn ac mae hyn yn gofyn am ymroddiad. Gyda’r wobr hon, rydym am ddathlu’r unigolyn neu’r grŵp o bobl sy’n gofalu am y cae ar gyfer eich clwb.”

Yr ymgyrch hon yw’r ddiweddaraf gan Gig Eidion Cymru PGI i gefnogi rygbi ieuenctid yng Nghymru. Caiff y rhan helaeth o wartheg yng Nghymru eu magu ar laswellt ac mae’r llystyfiant yn rhan allweddol o’r hyn sy’n rhoi’r blas arbennig i Gig Eidion Cymru ac yn ei wneud mor goch.

Author

Tags