Home » Gweinidog yr Amgylchedd yn darganfod Glannau Epic Arfordir Penfro
Cymraeg

Gweinidog yr Amgylchedd yn darganfod Glannau Epic Arfordir Penfro

YN DDIWEDDAR, cyfarfu Gweinidog yr Amgylchedd â’r gwirfoddolwyr ymroddgar sy’n helpu i gadw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn lle arbennig, a hynny wrth iddi ymweld â’r ardal am y tro cyntaf ers iddi gael ei phenodi.

Hefyd, cyfarfu Hannah Blythyn AC â staff Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar daith o amgylch Gogledd Penfro. Roedd y daith yn cynnwys ymweliad â Phentref Oes Haearn Castell Henllys, ymweliad â Siambr Gladdu Pentre Ifan a thaith gerdded ar hyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ger Ceibwr.

Dywedodd Gwyneth Hayward, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Roedd yn bleser croesawu’r Gweinidog i Arfordir Penfro er mwyn dangos y gefnogaeth hanfodol mae ein gwirfoddolwyr ymroddgar yn ei rhoi i staff Awdurdod y Parc.

“Blwyddyn y Môr ydy 2018, felly roedd hefyd yn gyfle i gyflwyno tirwedd drawiadol ac amrywiol y Parc Cenedlaethol i Weinidog yr Amgylchedd, a dangos y ffyrdd amrywiol sydd gan yr Awdurdod o gynnal y cydbwysedd sensitif sydd rhwng cadwraeth a hamdden, yn ogystal ag o gefnogi’r economi a’r cymunedau lleol.”

Yng Nghastell Henllys, cyfarfu’r Gweinidog â gwirfoddolwyr o brosiect Llwybrau, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn gynllun tair blynedd i geisio helpu mwy o bobl i dreulio amser yn yr awyr agored drwy gynnig cyfleoedd hyfforddi, dysgu a gwirfoddoli yn y Parc Cenedlaethol a’r ardaloedd cyfagos.

Roedd gwirfoddolwyr Llwybrau yn cyflawni tasgau fel gosod bylchau adar a phlygu gwrychoedd fel rhan o ddiwrnod gwirfoddoli blynyddol. Ymunodd Wardeiniaid Gwirfoddol Awdurdod y Parc Cenedlaethol â nhw, ac maen nhw fel arfer yn cyflawni swyddi ymarferol ochr yn ochr â’u Parcmon lleol, neu’n darparu cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau.

Cafodd y Gweinidog gyfle i gymryd rhan yn y prosiect ffotograffiaeth cyfrannu torfol Arfordir ar Daith, sy’n gwahodd pobl i anfon eu lluniau o leoliadau penodol er mwyn helpu Awdurdod y Parc i fonitro’r newidiadau sy’n cael eu hachosi gan yr elfennau.

Ychwanegodd Hannah Blythyn AC: “Mi wnes i fwynhau mynd i Fae Ceibwr a chael cyfle i weld rhan o’r Llwybr Cenedlaethol eiconig a Chastell Henllys drosof fy hun. Heb amheuaeth, maen nhw’n rhai o brif drysorau’r Parc Cenedlaethol.

“Roedd yn bleser o’r mwyaf cael cwrdd â staff a gwirfoddolwyr Awdurdod y Parc sy’n gweithio’n galed bob dydd ar amrywiaeth o waith pwysig. Mae hyn yn cynnwys astudio a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â hybu hamdden awyr agored drwy gyfleoedd hyfforddi, dysgu a gwirfoddoli.

“Rwy’n ddiolchgar am eu holl waith caled, eu hymrwymiad a’u creadigrwydd er mwyn gwneud y Parc Cenedlaethol yn lle mor arbennig.”

online casinos UK

Author

Tags