Home » Cyhoeddi ‘geiriadur’ o Enwau Lleoedd Cymru
Cymraeg

Cyhoeddi ‘geiriadur’ o Enwau Lleoedd Cymru

Plaid Cymru AMs. (Photo by Matthew Horwood)

BYDD RHESTR gynhwysfawr o enwau lleoedd Cymru yn cael ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 20 Mehefin, fydd yn cynnig sillafiad safonol ar gyfer enwau pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru.

Mae’r rhestr, fydd ar gael ar-lein ar wefan Comisiynydd y Gymraeg, yn cael ei disgrifio fel ‘geiriadur’ i wirio sut i sillafu enwau lleoedd. Mae bron i 3,000 o enwau ar y rhestr, ac mae’n ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil ac ymgynghori yn y maes.

Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni bu’r Comisiynydd yn gofyn i ymwelwyr brofi’r rhestr ddigidol ar ei stondin. Erbyn diwedd yr wythnos roedd dros 750 o binnau wedi eu rhoi ar y map yn nodi fod enw tref neu bentref wedi ei wirio ac mae unrhyw enwau oedd yn ymddangos ‘ar goll’ wrthi’n cael eu hychwanegu at y rhestr.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, “Rydym yn hynod o falch ein bod bellach mewn sefyllfa i gyhoeddi rhestr safonol o enwau lleoedd yng Nghymru. Mae’r digwyddiad hwn yn benllanw blynyddoedd o waith ymchwil gan ein tîm bychan o fewn Comisiynydd y Gymraeg mewn ymgynghoriad â phanel o arbenigwyr ar enwau lleoedd. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r arbenigwyr hyn am eu cyfraniad anhepgor at y prosiect hwn yn sicrhau bod sail gadarn i bob un o’r argymhellion.

“Mae gan lawer ohonom farn bersonol am sut i ysgrifennu enwau lleoedd yn ein milltir sgwâr ac mae’n bosibl na fydd pawb yn cytuno â phob argymhelliad ar y rhestr. Nid gorfodi yw ein bwriad, ond yn hytrach argymell, a cheisio sicrhau bod cysondeb yn y modd yr ydym yn sillafu enwau lleoedd yng Nghymru mewn cyd-destunau swyddogol.”

Un o’r sefydliadau sydd eisoes wedi cyhoeddi y byddant yn gwneud defnydd o’r rhestr newydd yw’r Arolwg Ordnans.

Yn ôl Pam Whitham, Rheolwr Perthnasau’r Arolwg Ordnans, “Mae gennym bartneriaeth werthfawr â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ac maen nhw wedi chwarae rôl allweddol wrth i ni ddatblygu ein Polisi Enwi Cymraeg a sicrhau cysondeb o ran enwau lleoedd yng Nghymru yn ein holl gynnyrch. Rydym yn falch iawn o fod yn parhau i weithio â’r Comisiynydd ac yn croesawu’r rhestr hon fel adnodd gwerthfawr i ddiffinio enwau lleoedd yng Nghymru.”

Bydd y rhestr yn cael ei lansio mewn digwyddiad ym Mae Caerdydd, dan nawdd Dr Dai Lloyd AC. Gwnaeth Dr Dai Lloyd ymgais ym Mawrth 2017 i gyflwyno mesur fyddai’n diogelu enwau lleoedd yng Nghymru, ond pleidleisiodd y Cynulliad yn erbyn y cynnig ar y pryd.

Dywedodd Dr Lloyd, “Mae rhoi’r enwau ar gof a chadw ar restr fel hon yn mynd gam o’r ffordd at sicrhau bod y ffurfiau safonol yn cael eu cofnodi a’u parchu. Er mwyn gwirioneddol ddiogelu’r enwau lleoedd, a sicrhau na ddaw enwau eraill i gymryd eu lle’n fympwyol, credaf bod angen statws cyfreithiol i’r rhestr hon, fel sydd wedi digwydd mewn nifer o wledydd eraill.”

Wrth safoni enwau lleoedd, mae’r panel o arbenigwyr wedi bod yn dilyn canllawiau pendant. Maent yn talu sylw i ynganiad a tharddiad yn ogystal â defnydd lleol a defnydd hanesyddol o’r enw.

online casinos UK

Mae Dr Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd yn aelod o’r panel. Dywedodd, “Mae enwau lleoedd yn rhan o’n treftadaeth a’n hunaniaeth – dyna pam y mae cymaint ohonom â diddordeb byw ynddynt. Dim ond yn yr ugeinfed ganrif y cafodd system sillafu’r Gymraeg ei safoni’n drylwyr. Bu enwau lleoedd yn araf deg yn dilyn y drefn honno: mae sillafiad megis Caernarvon yn edrych yn Seisnig a dieithr inni heddiw, ond dyna’r ffurf sydd ar gadair Eisteddfod Genedlaethol 1935!

“Nid mater du a gwyn yw sillafu enwau lleoedd, ac nid pawb a fydd yn cytuno â phob argymhelliad. Ond mae cytuno ar ffurfiau safonol mewn cronfa fel hon yn rhywbeth hanfodol os yw’r Gymraeg i fod yn iaith fodern ac addas ar gyfer yr oes ddigidol sydd ohoni.”

Bydd y rhestr ar gael i’w chwilio a’i lawrlwytho o dan drwydded agored ar wefan Comisiynydd y Gymraeg: https://bit.ly/2tjAvOG.

Author

Tags