Home » Gymraeg yn cysylltu mam gyda’i chymuned
Cymraeg

Gymraeg yn cysylltu mam gyda’i chymuned

MAE MAM o Sir Benfro yn teimlo bod ganddi fwy o gysylltiad â’i chymuned leol ar ôl dysgu Cymraeg ac mae’n galw ar eraill i wneud yr un fath fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion.

Dechreuodd Ailinor Evans, 48, o Gilgerran yn Sir Benfro, ddysgu Cymraeg dair blynedd yn ôl gan ei bod am deimlo’n rhan o’i chymuned leol. Magwyd Ali yn yr ardal mewn teulu di-Gymraeg a symudodd i ffwrdd yn 16 oed a cholli pob Cymraeg yr oedd wedi’i ddysgu yn iau. Ar ôl symud yn ôl 19 mlynedd yn ddiweddarach, teimlodd bod angen iddi ailafael yn yr iaith.

Fodd bynnag, fel mam brysur yn gweithio, doedd ganddi byth yr amser i ddysgu Cymraeg. Yn 2015, ar ôl colli ei swydd dechreuodd weithio yng Nghymdeithas Tai Sir Benfro, sef Grŵp Ateb bellach. Cynigiodd y sefydliad ddosbarthiadau Cymraeg amser cinio am ddim fel rhan o’i bolisi Cymraeg a manteisiodd Ali ar y cyfle ac mae hi wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

Buan y daeth Ali i sylweddoli nad oedd awr yr wythnos yn ddigon ac roedd am ddysgu’n gynt, felly mentrodd a dechrau ar ddosbarthiadau nos. Bellach, mae ar fin ennill ei chymhwyster Canolradd fis nesaf ac yn bwriadu ymgymryd â’i thystysgrif Uwch yn y Gymraeg yn y dyfodol.

Mae Ali yn cefnogi Wythnos Addysg Oedolion 2018, a gynhelir rhwng 18 a 24 Mehefin i dynnu sylw at gyfleoedd i ddal ati i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd fel oedolyn a dathlu effaith bositif addysg oedolion ar sgiliau a chyflogadwyedd.

Meddai Ali: “Rydw i wastad wedi bod eisiau bod yn rhugl yn y Gymraeg, ond heb deimlo tan nawr bod gen i’r amser i ymrwymo i hynny. Pan gyflwynodd fy nghyflogwr wersi Cymraeg a oedd yn cael eu cynnal yn yr ystafell drws nesaf i fy swyddfa, doedd gen i ddim esgus mwyach.

“Rydw i’n byw mewn cymuned wledig lle mae tua 60% yn siarad Cymraeg rhugl. Dydw i erioed wedi cael fy ngwneud i deimlo’n anesmwyth yma, ond roeddwn i’n awyddus i ddysgu Cymraeg er mwyn integreiddio’n llawn yn y gymuned. Mae’r rhan fwyaf o’n busnesau, siopau, tafarndai a chaffis lleol yn gweithredu yn y Gymraeg felly rydw i wrth fy modd yn gallu cynnal sgwrs a byw fy mywyd bob dydd yn hyderus yn y Gymraeg.

“Mae dysgu Cymraeg wedi bod o fudd yn fy ngwaith hefyd. Rydw i’n gorfod siarad â thenantiaid yn aml yn fy ngwaith i holi a oes ganddyn nhw unrhyw bryderon neu faterion maen nhw am eu codi ac mae’n braf eu bod yn gallu gwneud hynny yn Gymraeg os ydyn nhw’n teimlo’n fwy cyfforddus yn gwneud hynny. Mae fy nghyflogwr wedi bod yn gefnogol iawn ar fy nhaith ddysgu ac yn neilltuo amser i mi astudio a’r amser i sefyll arholiadau.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried dysgu Cymraeg i wneud hynny. Os nad ydych chi am ymrwymo i gwrs nos, mae llawer o opsiynau llai dwys sy’n cynnig blas i chi yn gyntaf. Mae llawer o gymunedau lleol yn cynnal boreau coffi neu yn cydweithio â mentor lleol lle gallwch gyfarfod a sgwrsio yn Gymraeg gyda’ch gilydd. Mae’r gymuned Gymraeg yn gefnogol iawn ac yn annog dysgwyr cymaint ag y gallan nhw.”

Cynhelir Wythnos Addysg Dysgwyr 2018 rhwng 18 a 24 Mehefin ac mae’n dathlu dysgu gydol oes – yn y gwaith, fel rhan o gwrs addysg cymunedol, yn y coleg, mewn prifysgol neu ar-lein. Mae’r wythnos wedi ei chynnal yn flynyddol ers 27 mlynedd bellach, gan hyrwyddo’r cyrsiau amrywiol sydd ar gael i oedolion, o ieithoedd i gyfrifiadura, o ofal plant i gyllid.

online casinos UK

Meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: “Rydyn ni’n aml yn meddwl am addysg fel rhywbeth rydyn ni’n ei wneud yn ifanc, ond mae dysgu yn weithgarwch gydol oes.

“Mae Ali yn enghraifft berffaith o rywun sydd wedi elwa ar ddysgu Cymraeg fel oedolyn. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, a beth bynnag yw’ch oedran dyw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu. Mae mwy o gyfleoedd nag erioed i bobl o bob oed ddechrau dysgu Cymraeg, yn yr ysgol, coleg neu fel oedolyn. Bydd pob unigolyn sy’n manteisio ar y cyfle i ddysgu ein hiaith yn ein helpu i gyrraedd ein targed uchelgeisiol o un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a fydd yn croesawu’r iaith ac yn ei defnyddio ym mhob cyd-destun.

“Gobeithio y bydd yr Wythnos Addysg Oedolion yn ysgogi pobl o bob oedran ledled Cymru i ddysgu sut gallant ddatblygu eu sgiliau. Mae’r Porth Sgiliau i Oedolion hefyd yn cynnig cyngor ac arweiniad o bob math ar yrfaoedd i unrhyw un sydd am wella eu sgiliau a’u cyflogadwyedd neu ddychwelyd i’r gwaith.”

Meddai David Hagendyk, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru: “Mae mynd yn ôl i’r byd addysg yn cynnig manteision enfawr i oedolion. Dengys y dystiolaeth y gall wella eich iechyd, bywyd teulu, y cyfle i gael gwaith, neu ddyrchafiad yn y gwaith. Gall cymryd y cam cyntaf yn ôl i addysg oedolion ymddangos yn dalcen caled i ddechrau, ond mae rhywun wastad wrth law i’ch cefnogi ar y daith.

“Mae’r Wythnos Addysg Oedolion wedi’i chynnal yng Nghymru ers 27 mlynedd ac wedi helpu cannoedd ar filoedd o oedolion ar hyd a lled y wlad. Mae’n adeg ragorol i fentro i ddysgu sgil newydd, cwrdd â phobl newydd a dysgu am rywbeth sydd wedi mynd â’ch bryd erioed. Gyda’r byd yn newid mor gyflym, mae’n bwysicach nag erioed ein bod i gyd yn dysgu gydol ein bywydau. Nawr yw’r amser perffaith i ddechrau.”

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop ac yn cael ei tnu gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru.

Am ragor o wybodaeth am yr Wythnos Addysg Oedolion, ewch i https://bit.ly/2JUkeXS neu ffoniwch 0800 028 4844 neu dilynwch @skillsgatewaycw.

Author

Tags