Home » Cystadleuaeth chwedlau lleol gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol
Cymraeg

Cystadleuaeth chwedlau lleol gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol

M​AE ysgolion cynradd Sir Benfro yn cael eu gwahodd i greu darluniau yn seiliedig ar fythau a llên gwerin lleol fel rhan o gystadleuaeth Blwyddyn y Chwedlau sy’n cael ei chynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae’r Awdurdod wedi paratoi cyfres o ffilmiau byr a chlipiau sain sy’n adrodd hanesion chwedlonol gyda chysylltiadau â thirnodau lleol. Gofynnir i’r disgyblion ddefnyddio un o’r straeon hyn fel ysbrydoliaeth ar gyfer eu campweithiau bach eu hunain.

Dywedodd Swyddog Dehongli Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Rebecca Evans: “Mae’r gystadleuaeth yn cysylltu â nifer o wahanol elfennau o’r cwricwlwm, gan gynnwys cymhwysedd digidol, llythrennedd, celf, dysgu yn yr awyr agored, diwylliant a threftadaeth. Bydd y cynigion buddugol yn cael eu dangos ar wefan Awdurdod y Parc a’u harddangos yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi.

“Gall ysgolion ddewis cyflwyno un cynnig neu gynigion dosbarth cyfan, neu hyd yn oed ofyn i’r disgyblion roi cynnig arni’n annibynnol. Bydd gwobrau i unigolion a dosbarthiadau, gan gynnwys tocynnau teulu i Gastell a Melin Heli Caeriw neu Bentref Oes Haearn Castell Henllys, a llyfr o chwedlau lleol ar gyfer dosbarth pob gwaith celf buddugol.”

Fel rhagor o ysbrydoliaeth, gall dosbarthiadau drefnu ymweliadau am ddim â safleoedd drwy gysylltu ag un o Geidwaid y Parc Cenedlaethol, neu ag un o atyniadau treftadaeth yr Awdurdod – Castell Caeriw neu Gastell Henllys.

Nodwch mai dim ond hyn a hyn o sesiynau sydd ar gael a byddant yn cael eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin. Gallai cymorth â thrafnidiaeth fod ar gael.

Dylai’r ceisiadau fod yn faint A3 ar y mwyaf, ar ei ochr, ac yn cynnwys enw, oedran ac ysgol y plentyn. Rhaid anfon ceisiadau i bencadlys Awdurdod y Parc ym Mharc Llanion erbyn dydd Gwener 27 Hydref.

Mae’r gyfres o ffilmiau a chlipiau sain byr yn rhan o brosiect sy’n bartneriaeth rhwng Awdurdod y​ ​Parc Cenedlaethol a Chyngor Sir Penfro. Cafodd y prosiect ei gyllido gan Croeso Cymru ar gyfer Blwyddyn Chwedlau 2017.

Mae’r fideos a’r straeon sain ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/chwedlau.

Author