Home » Llys hanesyddol Caerfyrddin ar y bocs
Cymraeg

Llys hanesyddol Caerfyrddin ar y bocs

Court buildings, Nott Square, Carmarthen

GLANIODD y sêr yn Neuadd Sirol Caerfyrddin yr wythnos ddiwethaf pan gafodd ei defnyddio fel set ar gyfer cyfres ddrama newydd S4C a’r BBC.

Yr hen lys, sydd bellach dan berchnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin, oedd y lleoliad a ddewisodd y cynhyrchwyr ar gyfer Un Bore Mercher, sef cyfres wyth rhan a fydd yn cael ei darlledu yn Gymraeg ar S4C ac yn Saesneg ar BBC Cymru. Mae’r gyfres yn cynnwys sêr adnabyddus y sgrîn megis Eve Myles, Matthew Gravelle a Mark Lewis Jones.

Dywedodd Pip Broughton, cyfarwyddwr a chynhyrchydd ar gyfer Vox Pictures: “Mae’n fraint i ni gael ffilmio yma yng Nghaerfyrddin ac rydym wrth ein boddau.

“Rwyf wastad wedi eisiau dod â drama ar leoliad i Orllewin Cymru. Mae Caerfyrddin yn wych. Mae’n hawdd cyrraedd yma ac mae gennym dref farchnad hyfryd sydd â llawer o hanes. Mae ffilmio yn y llys wedi bod yn ardderchog ac mae’r cefn gwlad o amgylch wedi bod yn berffaith i’n hanghenion ni.”

Mae’r cwmni wedi bod yn ffilmio yn Nhalacharn ac ym Mhentywyn hefyd, yn ogystal â lleoliadau eraill o gwmpas tref Caerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rydym yn falch ein bod wedi gallu cynnig y cyfle i Vox Pictures ffilmio yn ein llys hardd, adeilad sy’n llawn hanes.

“Mae’r ffaith bod y cwmni wedi dewis ffilmio yma yn lle dwsinau o leoliadau eraill yn glod anferth i’n sir. Mae’r dystiolaeth yn amlwg o ran sut y mae ardaloedd eraill wedi elwa ar ffilmio a sut y mae’n gallu rhoi hwb i dwristiaeth ac i economi’r ardal. Rydym yn edrych ymlaen at weld y gyfres hon yn gwneud yr un peth ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

“Byddwn yn falch i glywed gan unrhyw gynhyrchwyr sy’n chwilio am leoliadau ffilmio gan ein bod yn medru cynnig unrhyw beth o’r arfordir i gefn gwlad, ac mae gennym ddigon o leoliadau trefol ac amrywiaeth o adeiladau sy’n addas ar gyfer unrhyw fath o ddrama.”

Bydd Un Bore Mercher yn cael ei darlledu ar S4C o 5 Tachwedd ymlaen a bydd y fersiwn Saesneg, sef Keeping Faith, yn cael ei darlledu ym mis Ionawr 2018 ar BBC Cymru.

Author