Home » Dafydd y Milfeddyg ar drin mwnci a llewpard
Cymraeg

Dafydd y Milfeddyg ar drin mwnci a llewpard

YN Y drydedd bennod yng nghyfres Y Fets ar S4C, mae’r milfeddyg Dafydd Jones yn cael ei alw i archwilio llewpard sydd mewn hwyliau drwg, a mwnci sydd wedi anafu ei gynffon. Ond sut brofiad, tybed, yw troi ei law at drin anifeiliaid mwy peryglus na’r arfer?

Dafydd, sut mae mynd ati i drin anifail fel llewpard neu fwnci?

Ychydig iawn gall rhywun wneud o ran edrych ar lewpard. Oherwydd y perygl, mae’n rhaid i rywun fynd yn ôl yr hanes yn fwy na dim byd arall. Mae’r mwncïod yn haws oherwydd bod rhywun wedi’u hyfforddi nhw i ddod i ‘nôl eu bwyd ac i ddod i eistedd ar ryw silff arbennig wrth ochr y ffens. Mae modd rhoi meddyginiaeth mewn yn y bwyd ac fe wnaethon ni roi eli ar ei gynffon heb fod o’n protestio gormod.

Beth oedd hanes y llewpard?

Roedd y llewpard yn gorwedd yn ei enclosure a ddim yn bwyta, oedd yn beth anghyffredin iddo fo. Roedd o mewn tipyn o oed ac wedi bod yna ers blynyddoedd. Rajah oedd ei enw fo. Es i allan i’w weld o, a dyna le’r oedd o’n gorwedd ar ei wely. Doedd o ddim isio dod allan a ddim yn dangos diddordeb mewn dim byd. Roedden ni’n gallu mynd ato fo drwy hollt yn y ffens a ddim yn gorfod mynd i mewn i’r caets. Wrth lwc, roedd modd ei drin o o’r tu allan efo’r waywffon a rhoi meddyginiaeth o gryn bellter. Rydyn ni’n ymdrechu i wneud yn siŵr bod pob anifail yn gyfforddus.

A beth am y mwnci?

Wedi brifo ei gynffon oedd y mwnci. Roedd o wedi tynnu bach o groen oddi ar ei gynffon. Doedden ni ddim yn siŵr sut roedd o wedi gwneud hynny. Mae o mewn caets mawr ar ei ben ei hun, felly mae’n annhebygol ei fod o wedi cael brathiad gan un o’r lleill.

Sut glaf oedd e?

Wnaethon ni roi pigiad iddo fe i’w roi o i gysgu ond chafodd o fawr o effaith arno fo! Mi dawelodd o, ond mae adrenalin yn gallu gweithio yn erbyn y cyffuriau ac mae’n debyg fod hyn wedi chwarae rhan. Roedd o’n dal yn effro ond lot dawelwch.

Gallwch ddilyn diwrnod anarferol Dafydd yn Y Fets nos Iau, 21 Mehefin. Hefyd yn y rhaglen, mae Sasha’r Labrador angen llawdriniaeth ar frys ac mae pawb yn gytûn bod angen i Daisy’r Sbaniel fynd ar ddiet go glou!

online casinos UK

Author

Tags