Home » Dathlu Llyfr y Flwyddyn 2018 ar S4C
Cymraeg

Dathlu Llyfr y Flwyddyn 2018 ar S4C

UN O nosweithiau pwysicaf y byd llenyddol yng Nghymru yw Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn, a gynhelir yn flynyddol o dan ofal Llenyddiaeth Cymru. Bydd yr enwau mawr yn ymgasglu yn y Tramshed yng Nghaerdydd i gael gwybod pa lyfr sy’n haeddu’r teitl yn 2018. Bydd uchafbwyntiau’r seremoni i’w gweld ar raglen arbennig, Llyfr y Flwyddyn 2018, gaiff ei darlledu’n syth wedi’r gwobrwyo ar S4C ar nos Fawrth, 26 Mehefin.

“‘Rwy’n disgwyl ‘mlaen yn fawr,” meddai cyflwynydd y noson, Gwion Hallam, “Dwi wedi bod mewn sawl Seremoni Llyfr y Flwyddyn dros y blynyddoedd, ac fel yr awduron, dwi’n gyffrous iawn i glywed canlyniadau’r rhestrau byrion a chlywed pwy fydd yn fuddugol.”

“Dwi’n siŵr fod gwaith y beirniaid wedi bod yn anodd iawn eleni,” meddai Gwion Hallam, fu’n beirniadu’r wobr yn ôl yn 2007, pan gipiodd Llwyd Owen y wobr gyda’i gyfrol Ffydd Gobaith Cariad. “Pan o’n i’n beirniadu, yr hyn o’n i’n chwilio amdano oedd rhywbeth oedd yn cydio ynof, yn aros gyda mi – rhywbeth a agorai’r byd i mi.”

Y Prifardd Aneirin Karadog, y ddarlledwraig Beti George, a’r llenor Caryl Lewis sydd wedi cael y fraint eleni o feirniadu’r cyfrolau Cymraeg, gyda naw o’u dewis yn cyrraedd y rhestrau byrion, cyn iddynt benderfynu ar brif enillwyr y seremoni. Gellir clywed sylwadau am y cyfrolau mewn fideos byrion sy’n cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol S4C.

Cyhoeddwyd tair rhestr fer yn y Gymraeg a’r Saesneg ym mis Mai – rhestr y Wobr Farddoniaeth, Gwobr Ffuglen a Gwobr Ffeithiol Greadigol. Cyhoeddir yr enillydd ym mhob categori ar y noson, ac yna bydd un llyfr Cymraeg ac un llyfr Saesneg yn cael eu henwi’n Llyfr y Flwyddyn 2018.

“Dwi wedi darllen dros hanner cant o gyfrolau i gyd,” dywedodd y beirniad Caryl Lewis. “Mae hi wedi bod yn braf cael yr esgus i ddefnyddio’r cyfle i gymryd yr amser i ddarllen y cyfrolau.”

Fel awdur, a chyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn, mae Caryl Lewis yn llawn cydnabod gwerth gwobrau fel hyn. “O’dd e’n hwb aruthrol pan enilles i am y tro cynta’ yn 2005 gyda Martha, Jac a Sianco,” meddai. “Fel awdur, does dim ffordd o fesur dy waith – dim bos i ddweud bo’ ti wedi gwneud joben dda, dim promotion! Mae cael dy enwi ar y rhestrau hyn yn rhywbeth amhrisiadwy i’r llenorion.”

Llwyddodd Caryl Lewis i gipio’r trebl yn 2016 gyda’i nofel, Y Bwthyn, gan ennill y categori Ffuglen, a gwobr Llyfr y Flwyddyn, yn ogystal â Gwobr Barn y Bobl. Eleni eto, Golwg360 fydd yn cyflwyno’r wobr honno i’r gyfrol sydd wedi derbyn y mwyaf o bleidleisiau’r cyhoedd.

“Dwi’n meddwl fod gwobr Barn y Bobl yn un hollbwysig – mae’n dangos bod y cyhoedd yn rhan o’r farn,” meddai Caryl Lewis. “Os nad oes darllenwyr, does dim pwrpas cyhoeddi.”

Caiff Caryl Lewis a Beti George eu holi gan Gwion Hallam fel rhan o’r rhaglen ar S4C, cyn i’r beirniaid answyddogol, Bethan Mair ac Ian Rowlands ymuno i drafod canlyniadau’r noson. “Mae’n gystadleuaeth agored iawn eleni,” yn ôl Gwion Hallam, “s’dim syniad ‘da fi pwy aiff â hi.”

online casinos UK

Author

Tags