Home » Dehongliad cyffrous o chwedl Beddgelert
Cymraeg

Dehongliad cyffrous o chwedl Beddgelert

DYMA chwedl enwocaf Cymru am ffrind gorau Dyn – ac nawr cawn fwynhau stori Gelert y ci mewn ffilm fer, afaelgar sy’n ein denu yn ôl i’r cyfnod canoloesol a ysbrydolodd y stori drist.

Mae’r ffilm 15 munud Beddgelert yn ddehongliad newydd a realistig o’r stori enwog am hownd ffyddlon Tywysog Llywelyn Fawr sy’n aberthu ei fywyd i achub mab ei feistr.

Bydd y ffilm Beddgelert, a gafodd ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan y cyfarwyddwr ffilm adnabyddus, Medeni Griffiths, yn cael ei darlledu ar S4C nos Fercher, 1 Tachwedd, 7.35pm, fel rhan o dymor Chwedlau S4C.

Wedi’i saethu ar leoliad yn ardal Dolwyddelan, Eryri, prif gymeriadau’r ffilm yw Tywysog Llywelyn Fawr (a bortreadir gan Andrew Howard) a’i ddiweddar wraig Siwan (Catherine Ayers).

Rydym yn clywed iaith sydd wedi cael ei hysbrydoli gan yr iaith a fyddai wedi cael ei siarad ar adeg teyrnasiad Tywysog Cymru yn y 12fed a’r 13eg ganrif. Darperir is-deitlau ar y sgrin mewn Cymraeg modern.

Mae Medeni Griffiths, yr awdur/cyfarwyddwr Cymreig sy’n byw ac yn gweithio yn Los Angeles, ac yn adnabyddus am ei harddull ddychmygus a gafaelgar mewn ffilmiau fel ‘Summit’, yn cyflwyno themâu newydd i ychwanegu dyfnder a lliw i’r stori adnabyddus sydd i’w hanfarwoli am byth mwy yn y byd enwog yn y pentref tlws yn Eryri.

Meddai Medeni, “Dw i wedi mopio hefo stori Beddgelert ers yr oeddwn i’n blentyn, ac er bod llawer o bobl yn meddwl ei bod hi’n drasiedi, roeddwn i eisiau creu ffilm a oedd yn cynnig mymryn o obaith ar y diwedd i’r cymeriad hwn a’i fab; neges yn dweud bod ganddyn nhw ddyfodol gyda’i gilydd. Mae’n stori drist, ond rwy’n gobeithio y bydd pobl hefyd yn profi’r ochr hudol iddi ac yn cael ei hysbrydoli ganddi.”

Yn y ffilm mae’r gwylwyr yn cwrdd â Llywelyn Fawr, sy’n galaru ar ôl colli ei wraig, Siwan. Mae’n chwilio am loches dawel yn ei gastell yn Nolwyddelan, yng nghwmni ei fab bach a’i gi dibynadwy, Gelert. Ond er gwaethaf cwmni Gelert, mae Llywelyn yn cael ei ddrysu gan ei alar, ac mae’n methu â synhwyro’r perygl sy’n bygwth ei deulu.

Cynhyrchydd y ffilm yw Benjamin Jenkins, gyda Rupert Bradfield yn serennu fel mab Tywysog Llywelyn, Dafydd, a Fern y ci fel Gelert. Y cyfansoddwr disglair Ceiri Torjussen sy’n gyfrifol am y gerddoriaeth ac Alys Bevan am y gwisgoedd. Mae’r cynhyrchiad yma gan Bad Wolf yn un o nifer o ffilmiau byr a gomisiynwyd gan Ffilm Cymru Wales a BFI NET.WORK’s Beacons fel rhan o gynllun i annog gwneuthurwyr ffilmiau newydd.

Author