Home » Galwad i wahardd ffracio
Cymraeg

Galwad i wahardd ffracio

WEDI Simon Thomas o Blaid Cymru yn rhoi cynnig deddfwriaethol newydd gerbron i sicrhau rhagdybiaeth yn erbyn ffracio yng Nghymru.

Wedi AC y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas yn rhoi Cynnig Deddfwriaethol Aelod gerbron y Senedd ddydd Mercher (Hydref 25).

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Ynni Simon Thomas: “Mae Plaid Cymru yn galw ar y Llywodraeth Lafur i ymrwymo i agwedd ragofalus at weithgaredd nwy anghonfensiynol, gan gynnwys gwrthwynebu ffracio.

“Y flwyddyn nesaf, byddwn yn cael pwerau yn y Cynulliad i wahardd ffracio. Yfory, byddaf yn arwain dadl ddeddfwriaethol yn y Cynulliad i wneud yr union beth.

“Does arnom ddim angen ffracio yng Nghymru. Dydyn ni ddim eisiau ffracio yng Nghymru. A fydd Plaid Cymru ddim yn caniatáu ffracio yng Nghymru.

“Ffracio yw’r hen ffordd o wneud pethau. Mae’n bryd taflu allan hen atebion y gorffennol.”

“Yn hytrach, fe ddylem newid deddfwriaeth cynllunio defnydd tir i gyflymu cynlluniau ynni sydd mewn meddiant cymunedol, gyda rhagdyb o blaid datblygu.

“Byddai Llywodraeth Cymru Plaid Cymru yn sicrhau bod adnoddau o Gymru yn cael eu defnyddio yn gynaliadwy, i fynd i’r afael â newid hinsawdd a datblygu economi ôl-garbon.

“Buasem yn trawsnewid ein polisi ynni i osod buddiannau cymunedau Cymru wrth galon popeth a wnawn.”

Author