Home » Droseddwyr mwyaf brawychus yn Cymru
Cymraeg

Droseddwyr mwyaf brawychus yn Cymru

Mali Harries: Y Ditectif

BYDD MANYLION am rai o achosion troseddol mwyaf brawychus Cymru yn cael eu datgelu yn y gyfres Y Ditectif ar S4C; sy’n cynnwys mynediad ecsgliwsif i rai darnau o dystiolaeth sydd ddim wedi eu gweld yn gyhoeddus o’r blaen, a chyfweliadau gyda ditectifs, llygaid dystion a theuluoedd sy’n trafod eu profiadau am y tro cyntaf.

Mi fydd cyfres Y Ditectif yn dechrau ar S4C nos Fawrth, 9 Mai, ac ynddi mae’r actores Mali Harries, sy’n adnabyddus am rôl DI Mared Rhys yn y ddrama dditectif Y Gwyll/ Hinterland, yn cwrdd â heddweision a thimau fforensig arbenigol er mwyn dysgu am y broses sy’n dwyn troseddwyr o flaen eu gwell.

Dan sylw yn y rhaglen gyntaf mae ymchwiliad Heddlu De Cymru i ddal llofrudd o Abertawe a guddiodd gorff ei landlord mewn chwarel yn Nolwyddelan cyn ffoi o’r wlad. Bydd y rhaglen hefyd yn dysgu am gyfraniad tîm achub mynydd Dyffryn Ogwen a wnaeth adfer y corff o’r chwarel.

Ymhlith yr achosion eraill yn y gyfres wyth-rhan bydd achos gwraig o Rondda Cynon Taf a lofruddiodd ei gŵr ac a lwyddodd i gadw’r corff yn gudd yn ei chartref am 17 o flynyddoedd. Hefyd, Gareth Hall o ardal Caernarfon sydd wedi derbyn dedfryd o 50 mlynedd mewn carchar yn Oregon, UDA, am dreisio merch deng mlwydd oed.

Mi fydd Mali yn cwrdd ag arbenigwyr fforensig digidol fu’n gweithio ar achos llofruddiaeth menyw ifanc mewn gwesty yng Nghaerdydd, ac mi fydd hi’n clywed am brofiadau personol yr heddweision oedd yn rhan o’r ymchwiliad cudd mwyaf yn hanes yr heddlu ym Mhrydain; sef Operation Julie, a chwalodd gynllwyn cyffuriau LSD yng Ngorllewin Cymru yng nghanol y 1970au.

Meddai Mali Harries, cyflwynydd Y Ditectif sy’n gynhyrchiad gan ITV Cymru, “Yn y gyfres yma, rwy’n cwrdd â nifer o dditectifs ac arbenigwyr sy’n cyd-weithio er mwyn dal troseddwyr. Wrth dreulio amser gyda nhw, rwy’ wedi dod i ddeall am yr ochr emosiynol sydd i’r gwaith, a’r effaith bersonol arnyn nhw. Pan ry’ chi’n meddwl am ymchwiliad Operation Julie, roedd y swyddogion yn gweithio undercover am fisoedd, a phrin iawn oedd y cyfle i weld eu teuluoedd. Roedd yn rhoi straen mawr ar eu bywyd personol.”

Mae Mali yn llawn edmygedd tuag at waith yr heddweision a’u hymroddiad er mwyn sicrhau cyfiawnder i’r dioddefwyr a’u teuluoedd, a hynny, yn aml, o dan amodau anodd iawn.

“Mae’r ditectifs yn gweld pethau mawr yn gyson wrth eu gwaith. Mewn nifer o achosion, gan gynnwys y rhai sy’n cael sylw yng nghyfres Y Ditectif, maen nhw’n dod ar draws cyrff sydd mewn cyflwr trychinebus. Wrth ymchwilio i achosion o gam-drin plant, maen nhw’n wynebu tystiolaeth sy’n dorcalonnus ac yn gweld pethau sy’n amhosib eu hanghofio,” meddai Mali, sy’n cyfaddef bod y straeon yn y gyfres wedi effeithio arni hithau hefyd.

“Ar y naill law dwi wedi mwynhau’r profiad o ddilyn yr heddlu wrth eu gwaith, am fy mod i, yn y bôn, yn berson eithaf ‘geeky’ – gyda llygad fanwl sy’n hoffi dadansoddi. Ond dwi wedi gweld a chlywed pethau doeddwn byth yn meddwl y byddwn i. Mae ffilmio’r gyfres wedi gadael ei ôl arna i, ac, fel mam, mae’r achosion cam-drin plant wedi gwneud i fi feddwl llawer am ddiogelwch ar y we. Mae gen i lot fawr o barch tuag at yr heddlu a’r arbenigwyr sy’n delio’n ddyddiol gyda’r hyn welais i, ac yn gweithio mor galed i ddal ac i rwystro troseddwyr.”

Author