Home » Mae’r Undeb yn gwrthod ‘sylwadau cwbl annerbyniol’
Cymraeg

Mae’r Undeb yn gwrthod ‘sylwadau cwbl annerbyniol’

Felix Aubel: ‘digon yw digon’

MAE ARWEINWYR Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn dweud iddynt gael eu siomi’n arw gan sylwad diweddar y gweinidog Annibynnol, y Parchedig Ddr Felix Aubel.

Roedd Dr Aubel wedi gofyn mewn neges Twitter pryd y byddaiCristnogion Ewrop yn dweud ‘digon yw digon’ fel y gwnaeth Cristnogion Sbaen ar ddiwedd yr Oesoedd Canol.

Bryd hynny, cafodd Mwslemiaid ac Iddewon eu herlid a’u lladd ar raddfa anferth.

“Mae’r fath sylwad yn wrthun gennym,” meddai Llywydd, Is-lywydd ac Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb mewn datganiad ar y cyd.

“Rydym yn parchu hawl gweinidog – fel pawb arall – i fynegi barn, ond mae’r sylwad a wnaed gan Dr Felix Aubel yn hollol annerbyniol. Er nad oes gan yr Undeb unrhyw awdurdod dros weinidog nag eglwys Annibynnol, mae’n amlwg yn ôl yr ymateb o sawl cyfeiriad dros y tridiau diwethaf yma ein bod ni, fel Annibynwyr a Christnogion yn gyffredinol, yn cael ein pardduo ar gam o ganlyniad i sylwad un unigolyn.

“Felly, rydym am ddatgan yn hollol glir a diamwys bod goddefgarwch crefyddol yn egwyddor ganolog i’n traddodiad ni fel Annibynwyr. Mae erledigaeth grefyddol, ac unrhyw awgrym o gefnogaeth i hynny, yn wrthun gennym. Rydym hefyd wedi datgan o’r blaen fel Undeb ein bod am groesawu’r sawl sy’n ffoi rhag rhyfel, trais ac erledigaeth gyda breichiau agored. Gobeithio bod hyn yn gwneud ein safiad yn hollol eglur.”

Pwysleisiwyd ymrwymiad Cristnogol hwnnw gan ail ddatganiad i’r wasg.

Mae corff sy’n cynrychioli bron i 3,000 o aelodau eglwysi Annibynnol yn Sir Gaerfyrddin wedi pleidleisio yn unfrydol i wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi plant, merched a dynion sy’n chwilio am noddfa rhag peryglon rhyfel a therfysg.

Wrth groesawu’r penderfyniad, dywedodd y Parchedig Aled Jones, Cadeirydd Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin, bod ffoaduriaid yn aml yn cael eu dilorni a’u gwrthod am nifer o resymau, gan gynnwys ofn y byddent rywsut yn dinistrio hunaniaeth y wlad sy’n eu derbyn ac yn peryglu lles cymdeithas.

“Mae disgwyl i ni Gristnogion i groesawu’r gwrthodedig a’r anghenus, i ddarparu lloches i’r rhai sydd mewn angen,” meddai’r Parchg Aled Jones.

online casinos UK

“Mae’r croeso hwn yn ymestyn, wrth gwrs, i’r rhai sy’n ddilynwyr crefyddau eraill, yn ogystal â phobl nad ydynt yn ystyried eu hunain i fod yn grefyddol. Fel Cristnogion rhaid i ni beidio â gwahardd o’n cymdeithas bobl nad ydynt yn rhannu ein credoau ni. Mae byd Duw yn ddigon mawr i bawb, a’n dyletswydd ni yw dysgu sut i rannu’r byd hwnnw yn deg ac yn gyfiawn gyda’r holl bobloedd.”

Cynhaliwyd Cwrdd Chwarter y Cyfundeb yng nghapel Pant-teg, achos a sefydlwyd yn yr ail-ganrif-ar-bymtheg mewn dyffryn gwledig anghysbell gan Anghydffurfwyr cynnar oedd yn cael eu gwthio i’r cyrion a’u herlid am eu ffydd a’u cred.

Author