Home » Dydd Gŵyl Dewi yn Dubai
Cymraeg

Dydd Gŵyl Dewi yn Dubai

YN Y BALL Cymdeithas Dubai Cymru, hysbysodd Rebecca Evans aelodau o’r rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol Llywodraeth Cymru a chynlluniau i adeiladu ar y cysylltiadau presennol gyda Dubai.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Mae Cymru yn genedl flaengar sy’n awyddus i ddatblygu partneriaethau ar hyd a lled y byd. Pleser o’r mwyaf yw cael bod yma gyda chi heno i ddathlu ein diwylliant unigryw, diwylliant y gallwn ei thrysori lle bynnag yr awn yn y byd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i arwain y byd ym maes twf gwyrdd a chyflawni cynnydd economaidd sy’n amgylcheddol gynaliadwy ac yn gymdeithasol gynhwysol. Mae hyn yn i’w weld yn ein rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol fydd yn creu newid arwyddocaol yn yr hirdymor i bobl Cymru. Gyda phwerau a chyfrifoldebau newydd yn cael eu datganoli, mae’n gyfnod cyffrous i Gymru; bydd llu o gyfleoedd newydd yn cael eu creu yn sgil hyn fydd yn ein helpu i gyflawni mwy ar ran pobl Cymru. Rydym i gyd am weld Cymru’n wlad gryf a ffyniannus gyda chyfreithiau a pholisïau sy’n adlewyrchu’r heriau a wynebwn ac sy’n diogelu buddiannau pobl Cymru. Mae yna nifer o gyfleoedd i Gymru adeiladu cysylltiadau cryfach â Dubai a’r ardal ehangach; rwy’n croesawu’r help yr ydym eisoes wedi’i gael gan fudiadau fel Cymdeithas Gymraeg Dubai.”

Agorodd Llywodraeth Cymru ei swyddfa yn Dubai yn 2004 ac mae hynny wedi bod yn help mawr i gwmnïau o Gymru ddatblygu cysylltiadau allforio ar draws y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.

Mor ddiweddar â’r mis diwethaf, helpodd Llywodraeth Cymru gynhyrchwyr bwyd o Gymru i fynd i sioe fwyd a lletygarwch fwyaf y byd yng Nghanolfan Fasnach Dubai. Aeth yr 14 cwmni, o dan faner Bwyd a Diod Cymru i Gulfood i chwilio am gyfleoedd i hybu eu cynnyrch ac i gynyddu eu marchnad allforio a hynny ymysg 5,000 o arddangoswyr o 120 o wledydd.

Mae’r Dirprwy Weinidog yn un o nifer o Weinidogion Llywodraeth Cymru sy’n hybu Cymru adeg Dydd Gŵyl Dewi eleni. Bydd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, yn cynnal derbyniad ym Mrwsel, canolbwynt gwleidyddol Ewrop tra bydd y Prif Weinidog yn cynnal derbyniad yn Llundain i ddiplomyddion tramor a ffurfwyr safbwyntiau.

Bydd y digwyddiad blynyddol hwn yn gyfle i Gymru ymgysylltu’n uniongyrchol ac adeiladu cysylltiadau gyda Llywodraethau tramor. Bydd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn mynd i dderbyniad yn Nulyn i hybu Cymru yn yr Iwerddon, marchnad fasnach a buddsoddi bwysig i Gymru a’r farchnad dwristiaeth ryngwladol fwyaf i Gymru.

Author