Home » Y lle y celfyddydau
Cymraeg

Y lle y celfyddydau

‘WHANT gweld drama dda? Dewch i Neuadd Bronwydd nos Wener 10fed Ebrill i weld 5 cynnig i gymro. Cysylltwch â’r Fenter am docyn ar 01239712934

Theatr Bara Caws Yn cyflwyno 5 cynnig i gymro . Dianc o garcharu rhyfel yr Almaen bum gwaith yn ystod yr Ail Ryfel Byd – dyna un o gampau y diweddar John Elwyn Jones. Camp arall oedd ei ddawn lenyddol wrth ysgrifennu’r stori mewn cyfrol sy’n byrlymu o antur a beiddgarwch.

‘Cymeriad eofn, anystywallt, hwyliog, penderfynol a di-flewyn-ar-dafod’ dyna ddisgrifiad Nesta wyn Jones ohono. Yn y sioe hon, bydd Dyfan Roberts yn mynd dan groen yr arwr o Ddolgellau. Ar sail y llyfr, ei gyfrolau hunan-gofiannol, ac ymchwil pellach i’w gefndir, bydd yn tyrchu i’r hyn oedd yn gyrru’r cymeriad unigryw hwn yn ei flaen, a’i awydd anorchfygol am ddianc.

Dyddiadau a lleoliadau’r ddrama: Theatr Felinfach nos Fawrth 7fed Ebrill 7.30pm, tocynnau ar gael o’r swyddfa docynnau 01570470697.

Neuadd Bronwydd, Caerfyrddin nos Wener 10fed Ebrill 7.30pm, tocynnau ar gael wrth Menter Gorllewin Sir Gâr 01239712934.

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Sadwrn 11eg Ebrill 7.30pm, tocynnau ar gael o’r swyddfa docynnau 01970623232.

Author