Home » Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau
Cymraeg

Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau

MEWN ffilm a recordiwyd ar gyfer adroddiad, mae Ysgrifennydd y Cabinet, Kirsty Williams yn canmol y cynllun:

“Wrth inni symud tuag at y cwricwlwm newydd yng Nghymru, mae datblygu creadigrwydd yn ein plant a’n pobl ifanc yn gwbl allweddol. Mae’n braf iawn gweld gwledydd eraill y byd yn dechrau edrych ar ein dull ni o ddysgu creadigol drwy’r celfyddydau.”

Manyla’r adroddiad ar ystadegau’r rhaglen, yn ogystal â rhoi llais i randdeiliaid, gan gynnwys disgyblion ledled Cymru, athrawon, artistiaid a Chadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George, sy’n cloi’r adroddiad gyda datganiad pwerus: “Dysgu creadigol drwy’r celfyddydau yw’r rhaglen fwyaf uchelgeisiol y gellir ei dychmygu. Ei bwriad yw newid holl ddiwylliant dysgu ein hysgolion. Bydd yn cyflawni hynny drwy roi creadigrwydd wrth wraidd dysgu.”

Dyma rai ffigurau allweddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016/17:

  • £4.2 miliwn a fuddsoddwyd mewn Ysgolion Arweiniol Creadigol
  • 12,000 o ddisgyblion ledled Cymru wedi elwa o’r cynllun
  • 10,701 o ddisgyblion wedi cael arian ar gyfer profiadau Ewch i Weld

Yn yr adroddiad blynyddol mae mapiau rhyngweithiol ichi weld yn eich ardal chi lle mae ein gweithgarwch yn digwydd.

Mae sawl astudiaeth achos a dyfyniad uniongyrchol gan gyfranogwyr: “Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi ceisio ymgorffori dysgu creadigol ar draws yr ysgol mewn nifer o ffyrdd. Hyfforddwyd y staff a fu ynghlwm wrth y prosiectau ysgolion arweiniol creadigol a chawsant fudd mewn ffordd ystyrlon o weithio gyda’r ymarferwyr creadigol yn yr ystafell ddosbarth. Mae hyfforddiant mewn swydd ar gyfer y staff eraill yr ysgol wedi arwain at drafodaethau ysgol gyfan ynghylch cynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm a thrafodwyd y prosiectau yn fanwl, gyda phwyslais penodol ar y fethodoleg. Mae ein cynllunio sy’n seiliedig ar bwnc yn esblygu ac ysbrydolwyd y staff gan y prosiectau i ddefnyddio technegau mwy creadigol er mwyn datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd ein plant. Mae’r staff hefyd wedi gweld rhagor o gydweithio’n greadigol ac annibynnol a bu hynny’n ffordd o wella’n fwy ein dull o ddysgu.”

Author

Tags