Home » Lansio Ymgyrch Diogelwch Beiciau Modur yng Nghymru
Cymraeg

Lansio Ymgyrch Diogelwch Beiciau Modur yng Nghymru

MAE YMGYRCH sydd wedi’i hanelu at leihau’r perygl o anafiadau difrifol a marwolaethau ar y ffyrdd sy’n gysylltiedig â beiciau modur yn cael ei chynnal yng Nghymru.

Wrth i’r tywydd wella, mae’r heddlu’n gweld mwy a mwy o feicwyr modur ar y ffyrdd, yn manteisio ar lwybrau hardd yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Benfro.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn annog beicwyr modur i reidio’n ddiogel, ac mae’n rhybuddio y bydd mwy o ffocws ar feicio modur yn yr ardal tan fis Hydref fel rhan o’r ymgyrch, sef Ymgyrch Darwen.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Huw Meredith, Pennaeth Gweithrediadau Arbenigol: “Ers amser hir, mae beicwyr modur wedi cael eu hadnabod fel defnyddwyr ffyrdd sy’n arbennig o agored i niwed, ac mae lleihau nifer y bobl sy’n marw ac sy’n cael eu hanafu ar ffyrdd Dyfed-Powys yn flaenoriaeth ar gyfer ein Hunedau Plismona’r Ffyrdd.

“Rydyn ni bob amser wedi croesawu beicwyr modur o du hwnt i’n ffiniau i fwynhau’r dirwedd ardderchog, ond rhaid iddynt fod yn ymwybodol bod Heddlu Dyfed-Powys yn gwneud pob dim o fewn ei allu i sicrhau bod ein ffyrdd yn cael eu defnyddio’n ddiogel gan bawb, gyda’n Hunedau Plismona’r Ffyrdd yn gweithredu’n gadarn i atal damweiniau angheuol neu ddifrifol ar ein ffyrdd.

“Rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb am ei ddiogelwch ei hun a diogelwch pobl eraill ar ein ffyrdd, a bod yn ymwybodol o’r ffordd maen nhw’n reidio a gyrru. Cymerir camau gweithredu yn erbyn unrhyw un sydd yn dewis reidio neu yrru’n wrthgymdeithasol, yn ddi-hid, neu’n anghyfreithlon ar ein ffyrdd.

“Mae ein swyddogion yn gweld gormod o drasedïau, a llawer a all fod wedi cael eu hatal. Bydd nifer fawr o swyddogion Plismona’r Ffyrdd o gwmpas Dyfed-Powys yn defnyddio cyfuniad o addysg, ymgysylltu a gorfodi i atal trasedïau pellach. ”

Bydd swyddogion hefyd yn annog beicwyr modur i wella eu sgiliau beicio drwy gymryd rhan mewn gweithdai Beicio Diogel, sy’n cynnig mewnwelediad i’r hyn y gellir ei gyflawni gyda hyfforddiant uwch.

Mae’r gweithdai, sy’n cael eu cynnal gan heddluoedd ledled y DU, yn defnyddio cymysgedd o drafodaethau, teithiau beic ar y ffordd sy’n cael eu harsylwi a fideos gwybodaeth.

Maen nhw wedi’u llunio i wella sgiliau pob beiciwr modur sydd eisoes wedi pasio ei brawf ac maen nhw’n addas ar gyfer pob gallu, o’r beiciwr mwyaf profiadol i’r rhai sy’n dychwelyd i feicio modur yn dilyn cyfnod o absenoldeb.

online casinos UK

Canmolodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, yr ymgyrch: “Mae ein ffyrdd dal ymysg y rhai mwyaf diogel yn y byd.

“Fodd bynnag, mae nifer y beicwyr modur sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol dal yn rhy uchel. Mae ymgyrchoedd fel hyn yn rhan allweddol o amrediad ehangach o fesurau sydd wedi’u hanelu at wneud ein ffyrdd yn fwy diogel ac atal rhagor o anafiadau sy’n gysylltiedig â beicio modur. Mae’r ffordd gyfannol hon yn cynnwys sicrhau bod beicwyr modur yn cael eu blaenoriaethu wrth i ni ariannu mentrau diogelwch y ffyrdd, cefnogi GanBwyll i weithredu camerâu cyflymder, ac ariannu awdurdodau lleol i gyflwyno’r cynllun Beicio Diogel a hyfforddiant arall ar gyfer beicwyr modur.”

Author

Tags