Home » “Dyw’r boen byth yn diflannu”
Cymraeg

“Dyw’r boen byth yn diflannu”

FE FYDD cyfres S4C Y Ditectif yn cael mynediad ecsgliwsif i dystiolaeth yr heddlu a chyfweliadau pwerus gyda’r ditectifs a’r teuluoedd wrth i’r actor a’r cyflwynydd Mali Harries ddychwelyd i edrych ar saith achos o lofruddiaeth o nos Fawrth, 24 Ebrill ymlaen.

Ymysg yr achosion mae Mali yn eu holrhain mae llofruddiaeth Connor Marshall, 18 oed, fu farw ar ôl ymosodiad treisgar arno ar noson allan ym Mhorthcawl; ymchwiliad Operation York, pan gafodd Mark Mason ei drywanu 22 gwaith mewn hanner munud yn Y Rhyl, a llofruddiaeth Betty Guy, menyw 84 oed o Sir Benfro y credwyd am flynyddoedd iddi farw o achosion naturiol cyn i dystiolaeth newydd ddod i’r amlwg.

“Yn y drydedd gyfres, rwy’n cwrdd â mwy o deuluoedd y dioddefwyr a gweld shwd maen nhw’n dygymod ac yn gorfod byw gyda’r hyn sy’ wedi digwydd i’w plant nhw,” meddai Mali Harries, sy’n adnabyddus am chwarae rhan DI Mared Rhys yn y gyfres Y Gwyll/Hinterland ymysg rhannau blaenllaw eraill mewn cyfresi drama a ffilmiau.

“Beth dwi wedi ei ddysgu yw bod y boen byth yn diflannu a’r boen ddim yn mynd gyda’r achos llys, mae’r teuluoedd ‘ma yn gorfod ffeindio ffordd eu hunain i ddelio ’da’r peth a gorfod cario mla’n gyda’r golled enfawr.”

“Yn y drydedd bennod dwi’n cyfarfod mam Connor Marshall, y bachgen 18 oed a gafodd ei drywanu i farwolaeth mewn maes carafanau ym Mhorthcawl yn 2015. Mae’n haunting meddwl beth ddigwyddodd i fachgen mor ifanc oedd yn y lle anghywir ar yr amser anghywir. Fel Mam ro’dd clywed Nadine Marshall yn sôn am y dilema o eisiau rhoi rhyddid i’w phlant ond fel ma’ peryglon yn gallu dod gyda’r rhyddid yna yn drist iawn.”

Yn y rhaglen gyntaf bydd Mali yn teithio i’r Fflint i glywed pam y gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru ail agor achos marwolaeth Janet Commins. Ddeugain mlynedd ar ôl i’r ferch 15 oed gael ei lladd, daeth tystiolaeth DNA i godi cwestiynau syfrdanol am yr achos.

“Roedd e’n anhygoel dysgu sut wnaeth y troseddwr fyw gyda’i gyfrinach am ddeugain mlynedd ar ôl lladd merch ddiniwed, a gadael i ddyn arall fynd i’r carchar a chael bai ar gam. O’n i’n methu credu bod e’ ‘di gallu cario mlaen gyda’i fywyd e ar ôl beth wnaeth e a byw yng nghanol yr un gymuned a theulu Janet Commins ar hyd yr amser.”

Mae gweld sut mae pob aelod o unedau datrys troseddau’r heddlu yn gweithio gyda’i gilydd yn agoriad llygad ac yn gysur i Mali.

“Mae cyfarfod y ditectifs yn rhoi ffydd i fi; er bod pethau erchyll yn gallu digwydd, mae yna bobl dda yn cario mlaen i drio darganfod y gwir,” meddai Mali.

“Dwi wedi dysgu bod dim un lle erbyn hyn i unrhyw un gadw cyfrinachau gan fod y ditectifs yn gallu gwrando a chlywed gyda thechnegau cudd i ddatgelu’r cyfan.”

online casinos UK

Author

Tags