Home » Helpwch Parc Cenedlaethol gyda’r cynllun Noddi Iet newydd
Cymraeg

Helpwch Parc Cenedlaethol gyda’r cynllun Noddi Iet newydd

OS YDYCH chi’n mwynhau cerdded ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a hoffech gefnogi’r gwaith caled a gaiff ei wneud i gynnal y dirwedd hon, sydd heb ei hail, gallwch helpu nawr drwy gyfrannu at y cynllun Noddi Iet newydd.

Bydd yr incwm a gaiff ei greu gan y cynllun, lle bydd placiau personol yn cael eu gosod ar ietiau ar hyd Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Penfro, yn cefnogi gwaith Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gynnal a chadw’r Llwybr 186 milltir o hyd a’r Parc Cenedlaethol ehangach.

Dywedodd Rheolwr Codi Arian Allanol Awdurdod y Parc, Nichola Couceiro: “Bydd plac personol ar bob iet a gaiff ei noddi, a bydd gennych chi’r opsiwn o noddi iet er cof am rywun oedd yn bwysig i chi, fel rhodd i rywun arbennig, drwy eich cwmni neu hyd yn oed yn eich enw chi’ch hun.

“Mae dros 100 o ietiau ar gael i’w noddi ar hyd Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Penfro, sy’n golygu bod digonedd o leoliadau posib i ddewis ohonynt”.

Mae pob iet yn costio £600 i’w noddi, a bydd y nawdd yn para am gyfnod o ddeng mlynedd. Gallwch dalu drwy siec neu gerdyn debyd/credyd, drwy ffonio Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 01646 624800.

Mae’r ffurflenni ar gael o wefan Awdurdod y Parc yn www.arfordirpenfro.cymru/noddiiet.

Dylech anfon y ffurflenni wedi’u llenwi i [email protected] neu yn y post at: Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Noddi Iet, ewch i’r wefan uchod neu ffoniwch 01646 624808.

Author

Tags