Home » Edwards gwawdio cynlluniau cyllideb y Torïaid
Cymraeg

Edwards gwawdio cynlluniau cyllideb y Torïaid

Torïaid yn y cymylau ar dreth: Jonathan Edwards
Torïaid yn y cymylau ar dreth: Jonathan Edwards
Torïaid yn y cymylau ar dreth: Jonathan Edwards

ER GWAETHA cyhoeddi fis diwethaf y byddant yn gollwng yr angen am refferendwm cyn ildio pwerau treth incwm i Gymru, mae cwestiwn seneddol gan Jonathan Edwards AS Plaid Cymru wedi datgelu nad yw Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn gwybod pryd fydd y pwerau treth incwm hyn ar gael – tra bod y Ceidwadwyr yng Nghymru yn amlinellu polisi treth. Dywedodd Jonathan Edwards AS, Llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys: “Nid wyf yn synnu nad oes gan y Ceidwadwyr yn San Steffan syniad pryd fyd pwerau treth incwm ar gael i Gymru. Serch hyn, rwy’n siwr y bydd yn syndod mawr i’r Ceidwadwyr yng Nghymru sydd wedi bod yn datgan ar ba lefelau y byddant yn gosod treth incwm, heb roi unrhyw ystyriaeth i gyd-destun economaidd Cymru pan fydd y pwerau hynny ar gael o’r diwedd.

“Tu hwnt i’w dryswch ynghylch pryd fydd y pwerau ar gael, mae’r Ceidwadwyr wedi datgelu eu bod yn benderfynol o dorri presgripsiynau i bobl sal a chefnogaeth i fyfyrwyr ym mlynyddoedd cynnar eu bywyd er mwyn ariannu toriad treth i’r cyfoethog. “Yn fwy na hyn, rwy’n amau fod y Cediwadwyr yn gwybod y gallant wneud honiadau polisi treth afresymol am nad oes ganddynt siawns o ennill yr etholiad flwyddyn nesaf. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwneud yr un fath – ffaith sy’n siarad cyfrolau. “Diolch i oedi a diffyg gweithredu’r Toriaid, gall fod yn flynyddoedd eto cyn i Gymru gael y pwerau treth incwm a gytunwyd arnynt gan yr holl bleidiau nol yn 2012. Ar yr un pryd, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i osgoi derbyn y pwerau hyn am eu bod yn ofni cymryd cyfrifoldeb am economi Cymru.

“I gymlethu pethau ymhellach, mae’r Ceidwadwyr yn San Steffan wedi bod yn siarad am gael gwared ar y refferendwm pwerau treth incwm drwy’r Mesur Cymru nesaf pan y caiff ei gyhoeddi yn y Gwanwyn 2016. Mae’r Mesur drafft ar hyn o bryd yn llanast, ac mae gwir bosibilrwydd y gaiff ei flocio gan y Cynulliad Cenedlaethol os yw’r Mesur terfynol yn cymryd pwerau nol i San Steffan. “Mae Plaid Cymru eisiau i Gymru dderbyn y pwerau treth incwm hyn cyn gynted a phosib.

Yn bennaf, mae hyn am sicrhau fod Llywodraeth Cymru’r dyfodol yn uniongyrchol gyfrifol am gyfran o’r treth incwm a gesglir yma eisoes, ac felly sicrhau fod ganddo ddiddordeb uniongyrchol mewn datblygu ein heconomi fel cymhelliant i dyfu’r sail treth. “Po fwyaf o bobl yma fydd yn ffynnu mewn economi sy’n gwella, po fwyaf fyddant yn ei gyfrannu i’r pot treth ar y cyfan, hyd yn oed heb yr angen i newid lefelau treth unigol. Mae Plaid Cymru eisiau economi well a gwasanaethau cyhoeddus gwell. Rydym eisiau Cymru well ac yn barod i ddelifro hynny yn etholiad 2016.”

Author