Home » Eisteddfod Ryng-golegol yn dychwelyd i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Cymraeg

Eisteddfod Ryng-golegol yn dychwelyd i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

BYDD yna groeso arbennig i’r Eisteddfod Ryng-golegol (9-11 Mawrth) wrth iddi ddychwelyd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am y tro cyntaf ers pum mlynedd.

Cynhelir yr Eisteddfod ei hun ar ddydd Sadwrn, 10 Mawrth ar gampws y brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan gyda’r cystadlaethau Chwaraeon, sy’n cynnwys rygbi, pêl droed a chystadleuaeth pêl-rwyd 7 bob ochr yn cychwyn gweithgareddau’r penwythnos ar ddydd Gwener, 9 Mawrth. Yn dilyn y cystadlu yn yr Eisteddfod, bydd gig i ddilyn ar y nos Sadwrn lle bydd Y Cledrau, Fleur de Lys, Gwilym a DJ Garmon yn perfformio ac yn diddanu’r dorf.

Mae myfyrwyr Cymdeithas Gymraeg y Drindod Dewi Sant wedi bod yn brysur iawn yn paratoi a tnu ar gyfer y penwythnos. Llywydd y Gymdeithas Gymraeg yn y brifysgol yw Ifan Thomas. Dywedodd: “Yn 2013 cynhaliwyd yr Eisteddfod ar ein campws yng Nghaerfyrddin ond eleni rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i Geredigion a champws y brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan. Mae’r penwythnos hwn yn cael ei ystyried fel un o’n prif ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol ac mae yna gyffro mawr yma yn ogystal â llawer o waith trefnu!

Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r trefniadau ac i’r holl sefydliadau a busnesau lleol sydd wedi noddi’r Eisteddfod eleni. Yn benodol, hoffwn ddiolch o waelod calon i Gomisiynydd y Gymraeg am noddi ein gig ar y nos Sadwrn a diolch arbennig hefyd i Morgan a Davies, WD Lewis a’i fab, ac Evans Bros, sy’n fusnesau pwysig ac adnabyddus yn y dref a’r sir, am gefnogi’r penwythnos. Rydym yn ddiolchgar i Gangen y Coleg Cymraeg yn y brifysgol a Chanolfan Peniarth am eu cefnogaeth yn ogystal.

Ar hyd y blynyddoedd mae’r Eisteddfod wedi sicrhau llwyfan i ddatblygu talentau cannoedd o fyfyrwyr ac mae’n siŵr na fydd eleni yn eithriad. Felly, dewch i fwynhau’r cystadlu a’r cymdeithasu yn n hanesyddol Llambed!”

Sefydlwyd y campws yn Llambed yn 1822 fel Coleg Dewi Sant i ddarparu addysg ryddfrydol i aelodau’r glerigiaeth. Erbyn heddiw mae’r gymuned academaidd yn parhau i ffynnu ac mae’r portffolio a gynigir yn denu carfan ryngwladol o fyfyrwyr bob blwyddyn.

Dywedodd Mr Gwilym Dyfri Jones, Pro-Is Ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i groesawu myfyrwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i gampws hyfryd y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan. Mae’r campws yng nghanol tref farchnad hanesyddol Llambed ac yn gartref i’n darpariaeth yn y Dyniaethau.

“Yma gallwch astudio pynciau sy’n amrywio o Anthropoleg ac Archaeoleg i Astudiaethau Tsieineaidd a Hanes. Bydd yna groeso mawr i bawb yn Llambed a hoffwn longyfarch y tîm sydd wedi bod wrthi’n ddiwyd gyda’r trefniadau. Mae’n rhaid diolch yn arbennig hefyd i’r Comisiynydd a’r busnesau lleol sydd wedi bod mor barod i gefnogi’r penwythnos.”

Prif noddwr gig yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni yw Comisiynydd y Gymraeg. Dywedodd Meri Huws: “Ar 1 Ebrill eleni fe fydd gan fyfyrwyr, am y tro cyntaf erioed, hawliau cyfreithiol i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â’u coleg neu brifysgol. Mae’r rhain yn cynnwys hawliau i lythyrau, gwasanaeth cwnsela, ffurflenni a thystysgrifau yn Gymraeg, yn ogystal â hawliau i dwitor personol sy’n siarad Cymraeg, cyfarfodydd Cymraeg a chyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg.

“Bydd y gig #MAEGENIHAWL yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn ffordd o ddathlu’r hawliau newydd hyn a chodi ymwybyddiaeth myfyrwyr fod yr hawliau ar y ffordd. Rwy’n dymuno’n dda i’r trefnwyr ac i bawb sy’n cystadlu, ac yn edrych ymlaen at glywed sut bydd yr hawliau newydd yn gwella profiad myfyrwyr yng Nghymru.”

online casinos UK

Author

Tags