Home » Hanner Marathon Llanelli
Cymraeg

Hanner Marathon Llanelli

GWNAETH rhedwyr hen ac ifanc, enwog a chyffredin ymgynnull ym Mharc Arfordirol y Mileniwm Llanelli ddydd Sul, i gymryd rhan yn Hanner Marathon Llanelli.

Denodd y ras, a drefnwyd gan Front Runner Events Ltd a’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Cymorth Digwyddiadau Cyngor Sir Caerfyrddin, dros 2,000 o redwyr ledled y DU, Iwerddon ac ymhellach i ffwrdd -y nifer fwyaf o redwyr yn hanes y digwyddiad.

Gwnaeth sêr y trac a’r teledu gymryd rhan, gan gynnwys aelodau o dîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad a’r actores Eve Myles, sy’n rhan o’r ddrama ‘Keeping Faith’ a leolir yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yr actores wedi trydar “golygfeydd gwych, pobl wych a fy amser gorau erioed”.

Dywedodd trefnydd y ras, David Martin Jewell: “Dyma yw’r digwyddiad gorau i ni gynnal yn Sir Gaerfyrddin hyd yn hyn.

“Gan gofio y cafodd dros £250,000 ei godi ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol, ac roedd dros 35 y cant o’r rhedwyr yn teithio o’r tu allan i Gymru ac yn aros dros nos yma, yn sicr roedd y digwyddiad yn llwyddiant enfawr am nifer o resymau.

“Rydym wedi cael adborth cadarnhaol gan nifer o’r cystadleuwyr ynghylch y digwyddiad, y cwrs a’r ardal ac rydym yn edrych ymlaen at y digwyddiad nesaf yn 2019 ac yn y dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cefnogi Hanner Marathon Llanelli,

“Does dim byd yn debyg i’r cyfleusterau a’r lleoliad ar gyfer digwyddiad tebyg i hyn, ac mae’r ardal yn lleoliad delfrydol ar gyfer rhedeg.

“Hoffem barhau i weithio gyda Front Runner Events i ddatblygu’r digwyddiad yn un allweddol ar galendr y byd chwaraeon cenedlaethol.”

Author

Tags