Home » Fferm Ffactor Selebs 2018
Cymraeg

Fferm Ffactor Selebs 2018

FYDD y buarth byth yr un peth ar ôl cyfres ddiweddaraf Fferm Ffactor, wrth i selebs gystadlu am deitl Fferm Ffactor a chyfraniad o £3,000 at elusen o’u dewis.

Y wynebau cyfarwydd fydd yn cystadlu yn y gyfres dair rhan newydd, Fferm Ffactor: Selebs yw:

Elen Pencwm – cantores a chyflwynydd radio; Alun Williams – cyflwynydd radio a theledu; Nathan Brew – cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol; Ioan Doyle – cyflwynydd Y Sioe a dringwr; Cefin Roberts – cyfarwyddwr Ysgol Glanaethwy; Linda Brown – seren ‘Run Sbit; Bethan Gwanas – awdur a chyflwynydd; Dyl Mei – cyflwynydd BBC Radio Cymru; Llŷr Evans – actor; Gareth Wyn Jones – awdur a chyflwynydd; Stifyn Parri – digrifwr a tnydd digwyddiadau; a’r cyflwynydd tywydd Siân Lloyd.

Yn ail-ymuno â theulu Fferm Ffactor mae’r beirniaid Caryl Gruffydd Roberts, Richard Tudor ac Wyn Morgan, ac mae cyflwynydd y rhaglen, Ifan Jones Evans yn ôl i geisio cadw trefn ar bawb a phopeth. Yma, mae Ifan yn esbonio beth sydd i ddod yn ystod y gyfres.

Beth sy’n wahanol am y gyfres ddiweddaraf o Fferm Ffactor?

Y tro yma, ry’n ni wedi penderfynu tynnu selebs mas o’u comfort zone yn gyfan gwbl! Dyw’r tasgau ddim yn haws oherwydd hynny chwaith. Mae rhai ohonyn nhw’n debyg iawn i dasgau o gyfresi gynt, felly byddwn ni’n cael cyfle i weld y selebs yn troi eu llaw at dasgau ffermio go iawn.

Beth sy’n wahanol am gael selebs yn lle ffermwyr arferol?

I gymharu â’r ffermwyr sydd fel arfer yn cystadlu yn Fferm Ffactor, mae’r selebs yn cyfathrebu gymaint mwy ac yn bwyllog wrth fynd ati i greu whilber neu bont ddŵr. Roedd y ffermwyr yn gwybod beth roedden nhw’n ‘neud ac yn rhuthro i mewn i wneud y dasg.

Ydy cyfnewid ffermwyr profiadol am wynebau adnabyddus yn bychanu’r diwydiant amaethyddol?

Na, sai’n meddwl! Mae Fferm Ffactor wedi bod ar S4C am naw gyfres bellach, a fi’n meddwl bydd y fformat yma’n denu pobl sydd heb wylio cyfresi blaenorol. Ond does dim angen i wylwyr ffyddlon Fferm Ffactor boeni; mae hi’n dal yr un gystadleuaeth. Mae hi’n rhaglen i’r teulu oll ac yn lot fawr o sbort. Mae’r selebs yn cael blas o fyd amaethyddol a byddwn ni yna i ddangos eu profiadau.

online casinos UK

Ydy unrhyw un o’r cystadleuwyr yn sefyll allan i chi?

Cefin Roberts. Mae Cefin yn ymroi’n llwyr i’r tasgau – gwnaiff e ffarmwr da ryw ddydd! Ar y llaw arall fe wnaeth Nathan Brew fy synnu i gan ei fod ofn anifeiliaid! Cyn cwrdd â’r selebs, mae ‘da chi ddelwedd o sut berson y’n nhw; doeddwn i ddim yn disgwyl gweld cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol yn rhedeg bant o gwpl o foch!

Ydy gwylio pobl ddibrofiad wedi dangos i chi pa mor anodd yw ffermio?

Wrth gwrs mae ffermio yn fy ngwaed i, felly mae cael pobl ddibrofiad yn cymryd rhan yn y gyfres ddiweddaraf yn agoriad llygad. Ond mae’r rhaglen yn gyfle da i ni addysgu’r cyhoedd sy’n gwylio am yr hyn ni’n gwneud a shwt ni’n ‘neud e.

Pwy fyddech chi’n dewis ar gyfer tîm delfrydol o selebs?

Taswn i’n cael rhoi dream team at ei gilydd byddwn i’n dewis y digrifwr Ifan Gruffydd yn gapten achos bod cymaint o brofiad ffermio ganddo fe. Byddai Tudur Owen yn ddiddorol i’w wylio, achos mae popeth mae Tudur yn ei wneud yn ddoniol! Fi hefyd yn meddwl byddai gweld Angharad Mair yn ei wellies yn grêt – mae hi wedi arfer â rhedeg marathons, felly mae’r elfen gystadleuol ganddi!

Rydych chi wedi cyflwyno Fferm Ffactor ers 2014 – pe baech chi’n gorfod cystadlu ar raglen realiti, pa un fyddwch chi’n ei dewis?

Fi’n credu byddwn i’n gwneud yn eithaf da ar I’m a Celebrity – Get Me Out of Here! Fyddwn i ddim ofn y bush tucker trials nac yn meindio gorfod bwyta pethau afiach – fi’n barod i roi tro ar bopeth. Yn ffodus iawn, sai’n ofni pryfaid cop, nadroedd na chwilod. Ond fi yn ofni llygod mawr!

Author

Tags