Home » Ffermwyr ar eu hennill o mesurau yn erbyn newid hinsawdd
Cymraeg

Ffermwyr ar eu hennill o mesurau yn erbyn newid hinsawdd

Dr. Prysor Williams o Brifysgol Bangor
Dr. Prysor Williams o Brifysgol Bangor
Dr. Prysor Williams
o Brifysgol Bangor

YN GYNYDDOL, mae ffermwyr cig oen ac eidion yng Nghymru yn gyrru agenda’r diwydiant yn erbyn newid hinsawdd trwy glymu arferion amgylcheddol da gydag enillion masnachol, yn ôl ymchwil diweddaraf Hybu Cig Cymru (HCC).

“Mae’r ymchwil yn dangos fod y diwydiant cig coch yn gweithio’n rhagweithiol er mwyn datblygu atebion i newid hinsawdd,” meddai Dr Prysor Williams, Uwch-ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor. “Mae ffermwyr yn fwyfwy ymwybodol fod ystod o fesurau ymarferol fydd yn gwella effeithiolrwydd technegol ar y fferm hefyd yn cael effaith llesol ar yr amgylchedd.

“Nid yn unig y mae’r rhain yn fesurau sy’n cwrdd â gofynion moesol neu bwysau gwleidyddol; mae ffermwyr yn ennill dair ffordd trwy wneud lles i’r amgylchedd tra’n gwella’u hanifeiliaid ac effeithiolrwydd ariannol eu busnesau.”

Mae’r casgliadau yn seiliedig ar ymchwil manwl gan HCC ar wybodaeth a gasglwyd oddi wrth 286 o ffermwyr cig oen ac eidion yng Nghymru. Edrychodd yr ymchwil ar fewnbwn fel bwyd, gwrtaith, plaladdwyr, deunydd gorwedd a thanwydd, yn ogystal â lefelau stocio a symudiadau drwy’r flwyddyn. Roedd yn canolbwyntio ar gynhyrchiant ac effeithiolrwydd wrth gael yr uchafswm o allbwn am bob uned o fewnbwn.

“Mae’r diwydiant amaeth o dan y chwyddwydr yn fwy nag eraill. Mae’n bwysig i ni fod yn rhagweithiol wrth leihau allyriadau” medd Dr. Williams. “Mae’n rhaid i bob sector chwarae rhan os ydyn ni am gwrdd â gofynion y Ddeddf Newid Hinsawdd i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr o 80% erbyn 2050.

“Wrth gwrs, mae lle i wella gan bawb. Ond mae gennym ffermwyr da ac adnoddau gwych, fel Map Ffyrdd Cig Coch Cymru HCC, felly rydym mewn sefyllfa gref i gwrdd â’r her.”

Mae Dr. Prysor Williams yn un o nifer o academyddion sy’n cymryd rhan yn nigwyddiadau teithiol CAM-Ymlaen HCC, lle mae arbenigwyr yn cyflwyno’u hymchwil yn uniongyrchol i ffermwyr. Cynigiodd restr-fer o gamau ymarferol fyddai’n gwneud gwahaniaeth o ran effeithiolrwydd y busnes a newid hinsawdd: “Plannwch feillion yn eich tir glas, gan fydd hyn yn helpu gyda nitrogen ac yn lleihau’r angen i brynu gwrtaith; gwellwch faeth eich defaid yng nghyfnod olaf beichiogrwydd i gynyddu faint o ŵyn sy’n goroesi; cynyddwch allbwn y praidd drwy gael defaid ifanc i wyna; cynyddwch raddfa pesgi er mwyn gorffen anifeiliaid yn gynt a dewiswch laswelltau sy’n lleihau colledion nitrogen.

“Gall mesurau sy’n llesol i’r amgylchedd fod yn ymarferol, yn gost-effeithiol ac yn hollol gymwys gyda gwneud busnes fferm yn fwy proffidiol yn y tymor-hir.”

Author