Home » Gwasanaeth heb ei ail o “sioe amaeth orau’r byd”
Cymraeg

Gwasanaeth heb ei ail o “sioe amaeth orau’r byd”

cowsmarketDyw Ifan Evans, cyflwynydd rhaglen nos S4C o Sioe Frenhinol Cymru, erioed wedi colli’r digwyddiad blynyddol yn Llanelwedd. Mae hynny’n record go lew ar y naw o gofio bod y cyflwynydd teledu a radio bellach yn 31 mlwydd oed. Ac yn goron ar hynny, dywed Ifan mai ei atgof cyntaf un erioed oedd mynd i’r Sioe Frenhinol gyda’i deulu yn fachgen bach.

Mae’r cyflwynydd teledu a radio serchog yn ôl eto eleni i gyflwyno uchafbwyntiau digwyddiad y mae’n ei ddisgrifio fel y “sioe amaethyddol fwyaf ar y ddaear”.

Ac, o ddydd Llun i ddydd Iau, 18-21 Gorffennaf, bydd S4C yn darlledu gwasanaeth cynhwysfawr y mae digwyddiad mor bwysig yn ei deilyngu. Mae gwasanaeth Y Sioe ar S4C yn cynnwys: darlledu gydol y dydd o faes y sioe ar y teledu ac ar-lein, dwy ffrwd fyw ar y we o’r prif gylch a’r cystadlaethau cneifio defaid fydd ar gael yn fyd-eang ar s4c.cymru/sioe, sylwebaeth Saesneg ar y botwm coch, yn ogystal â’r uchafbwyntiau gyda’r nos.

“Mae’n fraint bod yn rhan o wasanaeth sy’n rhoi llwyfan rhyngwladol i ddigwyddiad mor bwysig yng Nghymru,” meddai Ifan, sy’n byw gyda’i wraig Gwawr mewn tŷ ar fferm ddefaid a gwartheg bîff y teulu ym Mhontrhydygroes, Ceredigion.

“I ni, fel teulu, mynd i’r sioe oedd uchafbwynt y flwyddyn. Fyddwn i byth yn breuddwydio colli’r digwyddiad, roedd yr amrywiaeth o sioeau, cystadlaethau a stondinau yn golygu bod rhywbeth yno i bob un ohonom ni fechgyn,” meddai Ifan, un o dri brawd. “Does gen i ddim amheuaeth mai hon yw’r sioe amaethyddol orau yn y byd. Mae amrywiaeth a safon y stoc a’r cynnyrch heb eu hail.”

Mae’r tîm cyflwyno yn cynnwys y darlledwyr Nia Roberts, Dai Jones (cylch gwartheg), y bugail a’r dringwr Ioan Doyle (clybiau Ffermwyr Ifanc, adrannau moch a geifr, ardal goedwigaeth), Heledd Cynwal a David Oliver (prif gylch) ac Alun Elidyr (cystadlaethau cneifio). Un wyneb newydd yn y tîm eleni yw’r newyddiadurwr Catrin Haf Jones. Hi yw’r gohebydd yn y cystadlaethau defaid. Fel Ifan, mae Catrin wedi ei magu ar fferm yng Ngheredigion, a hynny, ymhellach i’r de, rhwng Aberaeron a Chei Newydd.

“Bydd cyflwyno o’r sioe yn gyfle imi fynd yn ôl at fy ngwreiddiau amaethyddol, ond mae hefyd yn cynnig her newydd. Mae’n newid braf o gyfweld pobl ar gyfer straeon newyddion caled, ac yn gyfle i fod yn chwilfrydig a dysgu mwy am yr her o ddangos defaid. Efallai fy mod wedi fy magu ar fferm ddefaid, ond mae’r grefft o ddangos defaid yn sialens arbennig iawn,” meddai Catrin, 27 oed, newyddiadurwr gyda’r gyfres materion cyfoes, Y Byd ar Bedwar.

Ychwanega Catrin, “Mae’r sioe yn ddigwyddiad gwych, yn llawn egni, gobaith a balchder, ac mae’n wir yn rhoi cyfle i ddathlu’r cyfoeth o stoc a sgiliau sydd gennym yma yng Nghymru o fewn y diwydiant.”

Ymunwch â’r criw i fwynhau holl gyffro’r Sioe ar S4C wrth i ni ddathlu bywyd cefn gwlad a chynnyrch Cymru.

Author