Home » Ffermwyr yn dathlu Diwrnod Cig Oen Cymru
Cymraeg

Ffermwyr yn dathlu Diwrnod Cig Oen Cymru

Screen Shot 2016-08-25 at 09.56.41YNG NGHAERFYRDDIN dydd Llun (Aws 1) wnaeth Hybu Cig Cymru gychwyn ei ymgyrch a byddent yn gwario’r haf yn mynd â cynnyrch lleol a uniongyrchol at y cwsmer. 

Dathlu y digwyddiad ar ddiwrnod ‘Calan Awst – Calan Oen’ cyntaf i ddathlu Cig Oen Cymru.

Gomisiynwyd yr HCC arolwg gyda 2,000 yn cymryd rhan, dangoswyd fod pobl yn dethol pan maent yn prynu bwyd.

Dangoswyd fod wyth allan o ddeg o bobl yn darllen labelu i weld lle mae eu bwyd yn dod a bydd hanner ohonynt yn cwyno os bydd digon o fwyd lleol ar gael.

Mae tua 70% o brynwyr yn Nghymru yn gwneud ymdrech i brynu bwyd sydd yn dymhorol ond nid ydynt yn ymwybodol o pryd yn union mae’r tymor cywir. Gelir prynu cig oen yn Nghymru dryw’r flwyddyn ond mae rhan fwyaf cyffredin yn ein siopau o ail hanner yr haf tan ddiwedd y flwyddyn.

Yn y digwyddiad roedd aelod cynulliad UKIP Neil Hamilton a’i wraig Christine Hamilton.

Roedd ffarmwr Huw Davies yno fel siaradwr yn ei fedr i’r NFU lle mae yn is-gadeirydd i Sir Gaerfyrddin, “Mae’n bwysig i ni, ni’n cynhyrchu oen o safon yn Nghymru, hefyd mae’n bwysig ein bod yn gwerthu yn y ffordd iawn ac i gael y cyhoedd i ddeall beth ni’n ceisio gwneud fel ffermwyr ac hefyd fel prosesyddion ac mae hwn yn ddiwrnod arbennig i godi y sylw at y cig oen.”

Roedd Gareth Richards yno, ffermwr o Abergwili, dywedodd pan ofynnodd yr Herald am cefnogaeth i ffermwyr gyda’r ymgyrch hon: ‘dynna’r gobaith, gyda’r wlad yn addasu gyda’r wlad wedi penderfynu bod ni’n mynd i ddod allan o Europe, faint o wahaniaeth mae’n mynd i wneud yn edrych mlaen, sain siŵr ond mae’n rhaid i ni fel cynhyrchwyr i gwneud fwy o rhan ein hunain o fynd mas a hysbysebu ein cynnyrch a dangos i pobl beth sydd gyda ni ”

Dywedodd Rhys Morgan, pennaeth gweithrediadau Hybu Cig Cymru pan ofynnodd yr Herald am y ffermwyr: “ Dw i’n credi bod y gwaith ni wedi gwneud trwy gydol y flwyddyn yn mynd i adio tuag at hynny ac maen bwysig bod pobl yn sylweddoli bod cig oen o safon ac mae’n blasu yn dda iawn.”

Author