Home » Mabolgampau Dan Do Ysgolion Sul Sir Gaerfyrddin 2016
Cymraeg

Mabolgampau Dan Do Ysgolion Sul Sir Gaerfyrddin 2016

Y Parchg Tom Defis (Cadeirydd M.I.C.) yn cyflwyno medalau: I’r buddugwyr yn rownd derfynol y naid hir i ferched oed Meithrin – Flwyddyn 2
Y Parchg Tom Defis (Cadeirydd M.I.C.) yn cyflwyno medalau: I’r buddugwyr yn rownd derfynol y naid hir i ferched oed Meithrin – Flwyddyn 2
Y Parchg Tom Defis (Cadeirydd M.I.C.) yn cyflwyno medalau: I’r buddugwyr yn rownd derfynol y naid hir i ferched oed Meithrin – Flwyddyn 2

UN O BRIF ddigwyddiadau cymdeithasol y flwyddyn i nifer o Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gaerfyrddin yw’r mabolgampau blynyddol. Cynhaliwyd rowndiau rhagbrofol ar gyfer y dwyrain a’r gorllewin, cyn gorffen gyda rowndiau terfynol y sir.

Mae’r trefniant hwn yn boblogaidd iawn ac yn un sy’n creu cyffro ac yn rhoi llawer iawn o bleser i blant a phobl ifanc o bob oed. Daeth tyrfaoedd niferus ynghyd i gefnogi’r mabolgampau wrth i blant ac ieuenctid o 3 hyd at 18 mlwydd oed gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau.

Roedd rhywbeth yno i siwtio pawb gan gynnwys cystadlaethau unigol fel rhedeg; taflu pwysau; naid hir; taflu pêl am nôl; neidio cyflym; taflu peli at darged, ac yn newydd eleni, y ras rwystrau. Roedd hefyd cystadlaethau tîm megis rasys cyfnewid a thynnu rhaff, heb anghofio’r rasys ar gyfer athrawon Ysgolion Sul / gweinidogion / arweinwyr clybiau.

Gwobrwywyd y tri cyntaf ym mhob cystadleuaeth gyda medalau lliw ‘aur’; ‘arian’ neu ‘efydd,’ gyda medal ychwanegol i’r sawl oedd yn dod yn 4ydd yn yr oed Meithrin – Flwyddyn 2.

Mawr oedd y cyffro a’r hwyl, a’r cyfan yn enw’r efengyl.

Ffordd ardderchog felly i feithrin perthynas gyda’r ifanc ac i ddangos mewn ffordd ymarferol bod Cristnogaeth yn ymwneud a phob agwedd o fywyd ac nid yn unig oedfaon ar y Sul.

Cwblhawyd blwyddyn o weithgareddau ar gyfer yr Ysgolion Sul yn sir Gaerfyrddin yn ddiweddar gyda mabolgampau dan do. Mae poblogrwydd y digwyddiad hwn wedi tyfu yn aruthrol ac eleni cynhaliwyd tair noson o gystadlaethau gyda tyrfa niferus iawn yn bresennol ar bob achlysur. Cynhaliwyd cystadlaethau rhanbarthol ar gyfer y dwyrain a’r gorllewin gyda rowndiau terfynol y sir yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin.

Trefnwyd cystadlaethau ar gyfer pob ystod oedran, o’r meithrin hyd at 18 oed, gyda chyfanswm o 59 o gystadlaethau. Roedd amrywiaeth eang yn y math o gystadlaethau er mwyn rhoi cyfle i gymaint a phosib i fedru cymryd rhan. Yn ogystal a gwahanol fathau o rasys, cafwyd hefyd gwahanol fathau o gystadlaethau maes megis, taflu pêl am nôl, taflu pwysau, neidio cyflym (‘speed bounce’), naid hir, naid driphlyg a thynnu rhaff. Gwobrwywyd y tri cyntaf yn y rowndiau terfynol gyda medalau ‘aur’, ‘arian’ neu ‘efydd’.

‘Cyffro’, ‘llawenydd’, ‘hwyl’, ‘sgrechian’, ‘gwefr’ yw’r geiriau sy’n llifo i’r meddwl wrth gofio am yr achlysur. Roedd yr holl ddigwyddiad yn hysbyseb o’r math orau i’r Ysgol Sul ac i’r clwb Cristnogol. Os ydym fel eglwysi am ddenu plant a phobl ifanc yna mae’n angenrheidiol ein bod yn symud gyda’r oes a bod yn barod i fentro allan yn enw Crist i gynnig cyfeillgarwch a hwyl i’r to ifanc. Rhaid bod yn barod i newid delwedd, cael gwared ar yr hyn sy’n hen ffasiwn ac amherthnasol, a chymryd mantais o bob cyfle i gyflwyno neges efengyl yr Arglwydd Iesu Grist, sef gwir bwrpas bodolaeth pob Ysgol Sul a chlwb Cristnogol.

Bydd M.I.C. eto yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau cyffrous y tymor nesaf ond yn y cyfamser os hoffech weld rhagor o luniau o’r mabolgampau ewch i www.micsirgar.org

online casinos UK

(Mae M.I.C. yn gweithio’n gyd enwadol ar draws sir Gaerfyrddin gyda’r nod o hybu tystiolaeth yr efengyl ymhlith plant a phobl ifanc ac mae croeso i unrhyw eglwys o fewn y sir i fod yn rhan o’r Fenter. Am fanylion pellach cysyllter â Nigel Davies ar (01994)230049 neu mic@uwclub).

Author