Home » Fflandrys i gyflwyno cadair er cof am Hedd Wyn
Cymraeg

Fflandrys i gyflwyno cadair er cof am Hedd Wyn

DDYDD IAU 9 Tachwedd, Llefarydd Senedd Fflandrys wedi cyflwyno cadair i Gymru a grefftiwyd o drawstiau rheilffordd o feysydd y gad yn Fflandrys. Cyflwynir y gadair mewn seremoni a gynhelir yn y Senedd i nodi’r Rhyfel Byd Cyntaf a chanmlwyddiant marwolaeth y bardd Hedd Wyn.

Trefnwyd y digwyddiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Senedd Fflandrys a Chynrychiolaeth Gyffredinol Llywodraeth Fflandrys i nodi’r hanes y mae Cymru a Fflandrys yn ei rannu. Mae’n rhan o raglen o ddigwyddiadau yn ystod mis Tachwedd sy’n cynnwys arddangosfeydd, cerfluniau, symposiwm a darlith.

Lladdwyd Hedd Wyn mewn brwydr yn Fflandrys; enillodd Gadair Eisteddfod Penbedw ar ôl iddo farw. Gelwir y Gadair Ddu arni gan iddi gael ei gorchuddio â lliain du i ddynodi absenoldeb ei pherchennog.

Crëwyd cadair wreiddiol Hedd Wyn gan Eugeen Vanfleteren, gwneuthurwr dodrefn o Mechelen yn Fflandrys a chwiliodd am loches yng ngogledd-orllewin Lloegr rhag y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’n briodol, felly, fod y gadair a gyflwynir i bobl Cymru wedi cael ei dylunio gan fyfyrwyr Coleg Prifysgol Thomas More ym Mechelen.

Yn gyfnewid am y gadair, y Llywydd Elin Jones AC a Jane Hutt AC, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip, wedi cyflwyno gwaith celf i bobl Fflandrys.

‘Chinook’ yw teitl y paentiad, sef gwaith Osi Rhys Osmond, yr arlunydd o Gymru a fu farw yn 2015 yn 71 oed. Mae’r llun yn rhan o’r gyfres Hawk and Helicopter 2010. Dewiswyd ei waith o blith nifer a gynigiwyd ar sail ymchwil gan Gyngor Celfyddydau Cymru; fe’i detholwyd yn ôl meini prawf a oedd yn cynnwys bri’r arlunydd, sut y portreedir dwy iaith Cymru yn y darn, ac a fyddai gan y gwaith arwyddocâd mewn senedd-dy ymhen 20 mlynedd, 50 mlynedd neu hyd yn oed 100 mlynedd.

“Bydd yn achlysur arbennig iawn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gadarnhau’r berthynas agos rhwng Cymru a phobl Fflandrys,” meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Mae i’r gadair hon gymaint o arwyddocâd o gofio ein cysylltiadau â Hedd Wyn ac aberth ein milwyr ar feysydd y gad yn Fflandrys.

“Anrhydedd fydd derbyn y rhodd hwn ar ran pobl Cymru.”

online casinos UK

Ychwanegodd Mr Jan Peumans, Llefarydd Senedd Fflandrys ac arweinydd y ddirprwyaeth: “Oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf, crëwyd cysylltiad rhwng Fflandrys a Chymru unwaith eto. Drwy bresenoldeb milwyr o Gymru yn Fflandrys ac oherwydd y ffoaduriaid a aeth o Fflandrys i gymoedd Cymru, daeth cynghreiriaid yn gyfeillion. Heddiw, fe anrhydeddwn ac fe ddathlwn y rhwymau cyfeillgarwch hyn a ffurfiwyd ganrif yn ôl fel y gall ein cyfeillgarwch barhau am ganrif i ddod.”

David Alston, Arts Director Arts Council of Wales said: “It has been a privilege for the Council to act as an enabler to bring ideas and works together for this reciprocal gift. The final choice of a work by a prominent visual arts figure in our recent history is a fitting one, it is underpinned by Osi’s recorded words which informed the subject matter of environment and hopes for peace from his almost daily meditation of the prospect over Carmarthen Bay.”

Osi captured his emotions well and they fed into his pictures:

“I often see and hear military activity, the manoeuvres of planes and helicopters bombing and shelling the target area at Cefn Sidan. Witnessing this, I sense the beauty of nature, land and sea compromised by these violent and aggressive intrusions, momentarily the Earth loses its virtue to man’s madness but nature and sun redeem and these watercolours of sunset are my way of holding on to the beauty of the Earth and the wonder of life itself.”

I goffáu bywyd a gwaith Hedd Wyn, yr Athro Alan Llwyd, wedi cofiannydd y bardd, yn traddodi darlith a wedi yn trafod y dyn, y myth a’r eicon.

Author