Home » Gwaith newydd ar daith gyda chwmni opera Cymraeg
Cymraeg

Gwaith newydd ar daith gyda chwmni opera Cymraeg

MAE MERERID HOPWOOD, sy’n Athro yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi ysgrifennu’r libreto i opera newydd a gaiff ei pherfformio gan Opra Cymru’r mis hwn.

Mae’r opera wedi’i seilio ar y nofel Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis, a’r cyfansoddwr yw’r cerddor adnabyddus, Gareth Glyn. Mae’r daith yn dechrau ar 10 Tachwedd yn Pontio, Bangor mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, yna bydd yn ymweld â Wrecsam, Y Drenewydd, Aberystwyth, y Barri, Abertawe a Phwllheli.

Mae Islwyn Ffowc Elis yn un o lenorion pwysicaf Cymru ac ystyrir ei waith ymhlith clasuron yr iaith Gymraeg. Bu hefyd yn Ddarlithydd ac yn Ddarllenydd yn Y Drindod, Caerfrddin ac ym Mhrifysgol Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan, rhwng 1975 a 1988. Enwebwyd ei nofel Cysgod y Cryman yn Llyfr y Ganrif gan Gyngor Celfyddydau Cymru ym 1999. Ysgrifennwyd Wythnos yng Nghymru Fydd union chwe deg mlynedd yn ôl ym 1957 ac mae’n cymryd y darllenwyr ar ddwy daith i Gymru’r flwyddyn 2033, y naill yn Gymru rydd a’r llall yn Western England.

“Mae’r nofel yn ein hatgoffa fod y dyfodol yn dibynnu ar yr hyn a wnawn ni yn y presennol”, meddai Mererid Hopwood, “ac yn hynny o beth, mae’n ein herio ni ond mae hefyd yn cynnig gobaith i ni.”

Mae’r opera ei hun yn cael ei chyflwyno yn y Gymraeg. Fodd bynnag, mae Opra Cymru wedi datblygu ap, o’r enw ‘Sibrwd’ i alluogi siaradwyr di-gymraeg a dysgwyr Cymraeg i fwynhau’r opera. Gellir lawrlwytho’r ap mewn lleoliadau gyda WiFi.

Mae’r Athro Mererid Hopwood yn Athro yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yn 2001, hi oedd y wraig gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae hi wedi ennill Cadair a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â’r Fedal Ryddiaith. Yn 2005 roedd hi’n Fardd Plant Cymru, ac yn 2011 enillodd Wobr Glyndŵr am ei chyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru. Enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw, wobr categori barddoniaeth Llyfr Y Flwyddyn yn 2016.

Author