Home » Gweithio, dysgu, astudio
Cymraeg

Gweithio, dysgu, astudio

MAE’R PRIF gontractwyr sy’n gyfrifol am reoli’r gwaith adeiladu ar Yr Egin, Kier Group plc, wedi penodi myfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i weithio gyda’r cwmni ar y prosiect uchelgeisiol.

Bu Meleri Haf Owen, sy’n astudio Addysg Grefyddol trwy gyfrwng y Gymraeg yn Y Drindod Dewi Sant, ar leoliad gyda Kier dros yr haf ac ers hynny mae hi wedi cael ei chyflogi’n Weinyddwr dros gyfnod y prosiect i weithio gyda’r cwmni adeiladu wrth iddi gwblhau ei hastudiaethau.

“Roedd angen i Kier gael gweinyddwr i weithio ar brosiect Yr Egin. felly dyma ni’n gweithio gyda Sgiliau Adeiladu Cyfle i geisio dod o hyd i’r person cywir i ni. I ddechrau, roedd y lleoliad ar gyfer cyfnod prawf o bythefnos gyda golwg ar gyflogaeth dros gyfnod yr haf,” meddai Steve Langford o Kier, Rheolwr Prosiect Yr Egin.

“O’r cychwyn cyntaf, dangosodd Meleri frwdfrydedd, ymrwymiad ac agwedd glodwiw. Pan ddaeth y lleoliad i ben, hyfryd o beth oedd gallu cynnig gwaith iddi hi gyda ni ar Yr Egin.

“Mae Meleri’n gweithio’n galed, ac mae hi bob amser yn gwrtais, gan gwblhau pob un o’i thasgau i safon broffesiynol. Rydyn ni’n falch dros ben ei bod hi bellach yn gallu parhau i weithio i ni gydol y prosiect, wrth iddi gwblhau ei hastudiaethau yn Y Drindod Dewi Sant.”

Mae’r Egin – canolfan ddigidol a chyfryngol newydd Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin – yn ddatblygiad a fydd yn gartref i brif bencadlys S4C yn ogystal â nifer o gwmnïau a sefydliadau sy’n gweithio gyda’r diwydiannau creadigol a digidol.

Bydd yr Egin hefyd yn ganolfan a fydd ynghanol y gymuned gan ddarparu cyfleoedd i bobl leol fwynhau’r adeilad a’i adnoddau – caffi, awditoriwm a mannau perfformio. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Mawrth ac mae’r ganolfan ar y trywydd iawn i’w chwblhau erbyn haf 2018.

“Mae’n fraint cael gweithio ar brosiect mor gyffrous â’r Egin,” meddai Meleri sy’n ugain oed ac sy’n dod o Foelgastell, Sir Gaerfyrddin.

“Roeddwn i wedi bod yn gweithio i Sgiliau Adeiladu ar gampws Rhydaman Coleg Sir Gâr dros yr haf a thrwy Cyfle ces i wybod am y swydd hon. Gwnes i gais am swydd gyda Kier i ennill profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa, a chael fy mhlesio’n fawr iawn.

“Roeddwn i hefyd am gael rhagor o brofiad ym maes gweinyddu,” ychwanega Meleri. “Yn ystod fy nghyfnod i gyda Kier, dwi wedi datblygu a dysgu llawer o sgiliau gweinyddol newydd yn ogystal â dysgu rhagor am y diwydiant adeiladu a chael cyfle i gyfarfod â llawer o bobl newydd.

online casinos UK

“Dwi wrth fy modd yn gweithio i Kier ac yn falch dros ben o gael cyfle mor anhygoel lle ar yr un pryd dwi hefyd yn gallu cwblhau fy astudiaethau yn Y Drindod Dewi Sant.”

Mae Kier yn cynnig lleoliadau profiad gwaith gydol cyfnod prosiect Yr Egin yn ogystal â llawer o gyfleoedd ymgysylltu cymunedol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Amanda Swoboda, Cydlynydd Cymuned Kier trwy’r e-bost: [email protected]

Author