Home » Gwobr Antur fawr i Lowri
Cymraeg

Gwobr Antur fawr i Lowri

MAE UN o gyflwynwyr mwyaf anturus S4C, Lowri Morgan, wedi ennill gwobr yn y Gwobrau Antur Genedlaethol am ei gwaith yn hyrwyddo antur yn y cyfryngau.

Fe gyhoeddwyd y wobr mewn seremoni ar ddydd Mercher, Mawrth 18, yng Ngwesty’r Grand Central yng Nglasgow.

Mae’r Gwobrau Antur Genedlaethol yn cydnabod y gorau mewn antur yn Lloegr, Cymru a’r Alban.

Daw’r wobr ddyddiau cyn i gyfres newydd, sy’n cael ei chyflwyno gan Lowri Morgan, ddechrau ar S4C. Yn y gyfres, sy’n dechrau nos Sul 22 Mawrth am 8.00, fe fydd yr anturiaethwraig yn ymweld â gwahanol wyliau nodedig ledled y byd gan ddechrau gyda Gŵyl y Geni: Tsieina.

Mae Lowri, sydd newydd roi genedigaeth i fab, Gwilym, yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel cyflwynydd Ralïo+.

Yn wreiddiol o Dre-gŵyr, ger Abertawe, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae hi’n gyfarwydd hefyd fel anturiaethwraig o fri, ac mae hi wedi wynebu sawl sialens heriol.

Yn 2009, wynebodd antur enfawr wrth iddi hi gystadlu mewn ras ar draws jyngl yr Amazon am saith niwrnod, ac fe ffilmiwyd y cyfan mewn rhaglen arbennig ar S4C o’r enw Ras yn Erbyn Amser.

Ac yn 2011, fe wynebodd her enfawr arall wedi iddi hi goncro ras eithafol yr Arctig. Llwyddodd i gwblhau’r ras mewn 174 awr ag 8 munud, gan frwydro yn erbyn tymheredd oer a chreulon yr Arctig. Fe ddarlledodd S4C ei brwydr yn erbyn yr elfennau mewn ail gyfres Ras yn Erbyn Amser.

Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C: “Hoffwn longyfarch Lowri am ennill y wobr bwysig hon. Mae’n gydnabyddiaeth o’i phenderfyniad i fynd i’r eithaf i brofi antur a herio’r corff. Mae’n llysgennad arbennig i Gymru ac yn ddarlledwraig gynnes a naturiol. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r criw cynhyrchu y tu ôl i gyfresi Ras Yn Erbyn Amser yng nghwmni Tinopolis.”

Author