Home » Mae’r Cardi Bach yn ei ôl!
Cymraeg

Mae’r Cardi Bach yn ei ôl!

Cardi Bach: Buddugoliaeth i ymgyrchwyr bws.

MAE’R CARDI BACH, gwasanaeth bws poblogaidd yr arfordir, yn dychwelyd ar yr 30 o Fawrth. Mae’r ‘Cardi Bach’ yn rhedeg rhwng Aberteifi a’r Ceinewydd ac mae’n cysylltu pentrefi’r arfordir. Mae’n cynnig ffordd hyfryd a hwylus o fwynhau golygfeydd godidog Bae Ceredigion ac mae’n hefyd yn cynnig cyfleoedd i grwydro ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion.

Bydd Llywodraeth Cymru’n ariannu’r gwasanaeth trwy Gyngor Sir Ceredigion yn ystod 2015-16. Bydd yn rhedeg am chwe diwrnod yr wythnos dros yr Haf a bydd gwasanaeth llai yn ystod y Gaeaf. Mae’r gwasanaeth (Rhif 552) hefyd yn rhedeg ar ddydd Iau trwy gydol y flwyddyn i nifer o bentrefi.

Mae’r amserlen ar gael ar wefan y Cyngor Sir (www.ceredigion.gov.uk) a gwefan Llwybr Arfordir Ceredigion (www.ceredigioncoastpath.org.uk).

Bu’r Cardi Bach yn rhedeg tan fis Medi 2015 gyda chymorth Cynllun Datblygu Gwledig Cymru. Ar ôl i’r gwasanaeth ddod i ben o dan y prosiect hwnnw dechreuwyd ymgyrch yn lleol i’w ailsefydlu, ac fe gyflwynwyd deiseb i Lywodraeth Cymru. Bu’r Cyngor yn cydweithio gyda’r grŵp ymgyrchu lleol ar y gwasanaeth newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor “Mae’r Cardi Bach wedi bod yn boblogaidd iawn gyda phobl leol ac ymwelwyr a cherddwyr. Yr ydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom gan y Gweinidog i ailgychwyn y gwasanaeth”.

Mae Llywodraeth Cymru’n ariannu’r gwasanaeth tan Mawrth 31 2016.

Author