Home » Gwyddoniaeth yn dod i’r Maes
Cymraeg

Gwyddoniaeth yn dod i’r Maes

Mae partneriaeth gyffrous: Coleg Cymraeg a’r Eisteddfod
Mae partneriaeth gyffrous: Coleg Cymraeg a’r Eisteddfod

Y COLEG Cymraeg Cenedlaethol fydd yn arwain gwaith gwyddoniaeth a thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol dros y tair blynedd nesaf, gan gychwyn eleni yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau.

Bwriad y bartneriaeth newydd hon yw sicrhau bod gwyddoniaeth a thechnoleg yn parhau yn rhan ganolog a chreiddiol o waith yr Eisteddfod, ac y bydd cyfle i fwynhau arddangosfeydd a sesiynau o safon arbennig ar Faes yr Eisteddfod dros y blynyddoedd nesaf.

Un o brif amcanion gwaith gwyddoniaeth a thechnoleg yr Eisteddfod yw hyrwyddo pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) ac mae’r Prif Weithredwr, Elfed Roberts, yn gweld y bartneriaeth hon fel adnodd arbennig i’r gwaith hwn. Dywed, “Rwy’n hynod falch o’r bartneriaeth hon gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn edrych ymlaen at gydweithio dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae gan y Coleg Cymraeg nifer o arbenigwyr ar draws y meysydd gwyddonol, ac mae’n wych o beth ein bod ni fel Eisteddfod yn mynd i allu elwa o hyn

“Mae gwyddoniaeth a thechnoleg wedi bod yn rhan bwysig o’r Eisteddfod am dros ddeugain mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwn mae’r Eisteddfod wedi bod ar flaen y gad yn cyflwyno gwybodaeth wyddonol o bwysigrwydd rhyngwladol gyda chysylltiad Cymreig. Mae’r bartneriaeth hon gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ein galluogi i barhau i wneud hyn ac i ddatblygu ein gwaith yn y maes ymhellach, ac mae’n gyfnod cyffrous iawn i ni.”

Ychwanegodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, “Mae’r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr astudio pynciau STEM ym mhrifysgolion Cymru wedi datblygu’n sylweddol iawn ers dyfodioad y Coleg.

“Fel corff cenedlaethol, edrychwn ymlaen yn fawr iawn i gydweithio nid yn unig gyda’r Eisteddfod Genedlaethol, ond hefyd gyda phrifysgolion Cymru a chwmnïau a sefydliadau eraill er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud gwyddonaieth a thechnoleg yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.”

Author