Home » Gyfres newydd Jonathan
Cymraeg

Gyfres newydd Jonathan

BLYNYDDOEDD o ganu gyda’i gitâr yng Nghlwb Rygbi Treorci oedd yr hyfforddiant perffaith ar gyfer cyfansoddwr preswyl cyfres Jonathan, Siôn Tomos Owen.

Ar drothwy Pencampwriaeth y 6 Gwlad NatWest 2018, bydd y gyfres boblogaidd, sy’n cael ei chyflwyno gan Jonathan Davies, Sarra Elgan a Nigel Owens yn dychwelyd i S4C bob nos Wener, o 2 Chwefror.

Bydd y gyfres yn llawn gwesteion difyr a gemau ychydig yn wahanol i’r arfer ond bydd y gŵr o’r Rhondda, Siôn Tomos Owen, yn edrych ar y bencampwriaeth o safbwynt cerddorol mewn cyfres o fideos doniol. Fe ddaeth y syniad ar ôl i Siôn ddangos ei ddoniau ar y gitâr wrth ymuno â Ieuan Evans fel gwestai ar y soffa mewn rhaglen dros yr haf y llynedd. Wrth ei glywed, fe wnaeth Nigel gymharu Siôn â’r cymeriad anfarwol Max Boyce.

Meddai Siôn, sydd hefyd yn un o gyflwynwyr y gyfres Cynefin ar S4C, “Cafodd yr eitem ymateb da. Dwi ‘di bod yn gwneud pethau ‘da’r gitâr yng nghlwb Treorci ers blynydde felly dyw e ddim byd newydd i fi. ‘Chi’n cael ymateb gwahanol pan ‘chi’n ‘neud e mewn stiwdio, ond wnes i fwynhau cael canu cân am y Treorci Zebras ar y teledu!

“Fi ‘di bod yn y gynulleidfa cwpl o weithie hefyd ar raglen Jonathan ond roedd e’n lot o hwyl bod ar yr ochr arall, yn eistedd wrth ymyl Ieuan Evans; roedd e’n eithaf swreal! Roedd e’n big deal jyst i ddweud wrth bobl bo fi’n mynd ar y rhaglen.

“Fi’n mynd mas a gwneud fideos cerddoriaeth yn y gyfres yma. Fi ‘di gwneud yr un gyntaf am y 6 Gwlad yn gyffredinol. Yr her yw trio cadw o fewn y ddwy funud, mae’n eitha’ tynn ffitio popeth mewn ac felly mae’n fwy o rap na chân a dweud y gwir!”

Bydd y gyfres newydd hefyd yn cynnwys eitemau gan Lisa Angharad fydd yn ein tywys ni i’r dinasoedd mae Cymru yn ymweld â nhw yn ystod ymgyrch y 6 Gwlad, ac mewn eitem o’r enw Caru Cymru, bydd cyn chwaraewyr Cymru, Ryan Jones, Ian Gough, Tom Shanklin a Shane Williams yn datgelu rhai o’r hanesion mwya’ difyr o’u cyfnod yn gwisgo’r crys coch.

Author

Tags