Home » Bwrdd CNC yn cymeradwyo is-ddeddfau rheoli dal
Cymraeg

Bwrdd CNC yn cymeradwyo is-ddeddfau rheoli dal

MAE eogiaid a brithyll môr yn rhywogaethau eiconig yng Nghymru, ond mae eu dirywiad mewn llawer o afonydd wedi cyrraedd pwynt difrifol ac mae angen gweithredu ar frys i ddychwelyd stociau i lefel gynaliadwy.

Ac yn ei gyfarfod ym Mangor ddydd Iau 18 Ionawr, cymeradwyodd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gynigion i argymell is-ddeddfau newydd.

Pe bai Llywodraeth Cymru yn ei derbyn byddai’r rhain yn cyflwyno mesurau i ryddhau pob eog gaiff ei ddal ym mhob pysgodfa gwialen a rhwyd yng Nghymru yn ogystal â diwygiadau i’r math o abwyd a ddefnyddir a dulliau pysgota.

Byddent hefyd yn cyflwyno yr un mesurau ar gyfer brithyll môr am ran o’r tymor mewn rhai afonydd.

Yn dilyn trafodaeth fanwl gan Fwrdd CNC, cytunwyd hefyd y dylai pecyn ehangach o fesurau eistedd ochr yn ochr ā’r newidiadau hyn i sicrhau y nod ehangach o reolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol.

Mae hyn yn cynnwys blaenoriaethu rhaglen adfer afonydd a chydweithio’n fwy effeithiol gyda physgotwyr i gyflawni’r amcanion hyn er budd pawb.

Mae’r penderfyniad yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd a welodd dros 500 o ymatebion gan y gymuned pysgota.

Meddai Diane McCrea, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru: “Cafodd barn o bob ochr y ddadl ei gwyntyllu’n llawn yn ystod y drafodaeth.

“Rydym yn dal i bryderu nad oes gan y mesurau gefnogaeth lawn y gymuned bysgota a deallwn yn llwyr mai dim ond rhan o’r ateb yw hyn i geisio atal dirywiad stociau pysgod.

“Fodd bynnag, yn y pen draw, teimlai’r Bwrdd mai dyma’r opsiwn cywir – mae gennym ddyletswydd i wneud yr hyn y gallwn i gynnal ein stociau a’r llai o bysgod a leddir, yn gorau’n byd ydi’r siawns i’r boblogaeth wella.”

online casinos UK

Meddai Peter Gough, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd CNC: “Mae poblogaethau eog a brithyll môr mewn afonydd Cymreig yn dirywio’n ddifrifol a rhaid inni wneud popeth a allwn, a cyn gynted ag y gallwn, i’w hachub.

“Fel y disgwyliom, roedd llawer o ddiddordeb yn ein cynigion ac rydym wedi ystyried barn pysgotwyr trwy ddiwygio rhai o’n cynigion gwreiddiol lle bo hynny’n briodol.

“Mae angen inni wneud y newidiadau hyn i’n is-ddeddfau i helpu i wrthdroi’r dirywiad parhaus mewn stociau brithyll eogiaid afonydd Cymru.

“Mae hwn yn gam anodd i’w gymryd ond mae prinder eogiaid a brithyll môr yn golygu bod yn rhaid inni argymell bod Llywodraeth Cymru’n cyflwyno’r is-ddeddfau newydd hyn i helpu cynnal stociau ar gyfer y dyfodol.

“A dim ond un o’r mesurau yr ydym yn eu cymryd yw hwn. Rydym hefyd yn awyddus i newid y ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â physgota anghyfreithlon, lleihau llygredd a gwella ansawdd dŵr, a chredwn y bydd hefyd yn cyfrannu at gynorthwyo’r pysgod yma yn afonydd Cymru.”

Byddwn yn awr yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am gadarnhad o’r is-ddeddfau arfaethedig.

Author

Tags