Home » Jonathan Edwards AS yn ysgrifennu
Cymraeg

Jonathan Edwards AS yn ysgrifennu

UN O fy gweithredoedd olaf yn San Steffan cyn y Nadolig oedd gosod cynnig gerbron y Senedd oedd yn mynegi pryder am ail ddyfodiad y diwydiant caethweision yng ngogledd Affrica.

Darlledwr Americanaidd CNN wnaeth ddatgelu’r erchylltra wrth i’w gohebwyr deithio i Libya a darganfod masnach mewn pobl, gyda dynion a merched ifainc yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn agored. Yn aml byddai y dioddefwyr wedi wynebu trais rhywiol ac artaith cyn cael eu gwerthu.

Tarddiad y broblem yw y symudiad o fudwyr economaidd o wledydd i’r de o anialwch y Sahara i Lybia mewn ymgais i groesi Môr y Canoldir i Ewrop. Rydym yn sôn am smyglo pobl ar lefel ddiwydiannol gyda’r ifainc yn heidio wrth lyncu addewidion o ddianc rhag tlodi Affrica i gyfoeth Ewrop.

Mae yn anodd credu yn yr 21 Ganrif bod sefyllfa yn bodoli unrhyw le yn y byd lle mae pobl yn cael eu trin fel eiddo, i’w brynu a gwerthu a’u cam-drin. Rhywbeth chi’n darllen mewn nofelau, llyfrau hanes, neu gwylio mewn ffilmiau – perthyn i oes tywyll yn hanes dynolryw – yw masnach pobl. Craidd caethwasiaeth wrth gwrs yw bod rhai pobl yn llwyr israddol, heb unrhyw hawliau dynol o unrhyw fath. Gallwn ond ddychmygu amodau byw y rhai sydd yn byw fel caethweision.

O ystyried graddfa y datgeliadau gan CNN mae’n amlwg bod angen gweithredu ar frys ar lefel rhyngwladol. Mae rôl sylfaenol i’r Cenhedloedd Unedig ac i Undeb Affrica i greu polisïau rhyngwladol addas. Yn bersonol credaf bod angen ymateb polisi wedi selio ar tair golofn sylfaenol:

Yn gyntaf rhaid adfer grym llywodraeth Libya dros holl diriogaeth y wladwriaeth ac adfer rheolaeth cyfreithiol wedi selio ar hawliau dynol sylfaenol. Un o sgil effeithiau rhyfel y Gorllewin yn erbyn Gaddafi oedd anrhefn gwleidyddol dros tiriogaeth Libya wrth i’r llywodraeth newydd methu cadw rheolaeth dros y wlad. Gyda rhannau enfawr o Libya bellach mewn stad o anrhefn does dim syndod bod gweithredoedd hollol dychrynllyd wedi dychwelyd. Unwaith eto mae gwers i wledydd y Gorllewin bod yna goblygiadau dirfawr i gweithredoedd milwrol tramor. Mae ‘regime change’ wrth gwrs yn anghyfreithlon ac roedd yn hollol anghyfrifol i Cameron a Sarkozy golchi eu dwylo o Libya yn syth ar ôl y rhyfel.

Yn ail mae angen rhaglenni addysgiadol yn y gwledydd i’r de o’r Sahara sy’n rhybuddio pobl am ffawd mudwyr economaidd i gystadlu gyda propaganda y smyglwyr. Yn fwy na hynny rhaid mynd i’r afael a’r tlodi enfawr yn y gwledydd dan sylw a delio gyda rhyfeloedd yr ardal. Haws dweud na gwneud yn sicr ond rhaid I ni sylweddoli yn y Gorllewin yn yr oes modern os oes problemau mewn gwledydd tlawd y byd mae nhw’n datblygu yn gloi yn broblem i ni hefyd. Y gwirionedd yw bydd angen ail dosbarthu cyfoeth ac adnoddau yn sylweddol yn hytrach na system economaidd sy’n ecsploitio’r tlawd a canoli pwer, cyfoeth a grym ymysg yr elit.

Yn olaf bydd angen atgyfnerthu systemau sy’n atal y llif anghyfreithlon o fudwyr economaidd o Affrica i Ewrop. Mae derbyn ffoaduriaid wrth gwrs yn fater hollol gwahanol ac rwy’n falch iawn gweld mai Sir Gar, dan reolaeth Plaid Cymru, sydd ar ben rhestr Cynghorau Cymru o ran gweithredu ein cyfrifoldebau dyngarol. Siomedig iawn oedd darllen bod nifer fawr o gynghorau dan reolaeth y Blaid Lafur heb derbyn yr un ffoadur blwyddyn diwethaf.

Heb gweithredu cynhwysfawr ar y tri lefel uchod pryderaf ond gwaethygu bydd y sefyllfa. I orffen hoffwn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr yr Herald. Cawn obeithio am flwyddyn heddychlon a llewyrchus i bawb.

Author

Tags