Home » Beti George yn cofio ei chymar David Parry-Jones
Cymraeg

Beti George yn cofio ei chymar David Parry-Jones

GALAR personol a brwydr gyhoeddus, dyna hanfod rhaglen bwerus a phersonol ar S4C yng nghwmni’r cyflwynydd a’r newyddiadurwraig Beti George.

Collodd Beti George ei phartner, David Parry-Jones, ym mis Ebrill 2017 ar ôl iddo frwydro gyda chlefyd Alzheimer’s. Mae Beti George: Colli David yn ei dilyn wrth iddi gofio am ei chymer ac ymgyrchu dros ragor o gefnogaeth i’r rheiny sy’n byw gydag effeithiau Alzheimer’s.

Bu Beti’n gofalu am David ar ôl iddo gael diagnosis o Alzheimer’s yn 2009. Ers hynny mae hi wedi ymgyrchu’n ddiflino dros well cymorth i’r rhai sy’n byw gyda’r clefyd a’u gofalwyr.

“Beth sy’ yn rhoi cysur i fi yw fy mod i wedi dod i ben â gofalu amdano a’i fod e’ wedi gwerthfawrogi hynny a hefyd ei fod e’ wedi cael aros gartre’ tan y diwedd. Ydw i’n mynd i barhau i ymgyrchu? Wel, ar hyn o bryd, dwi’n teimlo’n fwy penderfynol nag erioed,” meddai Beti.

Bydd y rhaglen yn dilyn Beti wrth iddi wahodd gofalwyr a theuluoedd sy’n byw gyda’r clefyd i gwrdd â hi yn yr Eisteddfod Genedlaethol er mwyn rhannu profiadau a syniadau.

Mae Beti’n casglu’r wybodaeth yma er mwyn gallu lobïo gwleidyddion i wella gofal dementia. “Mae pobl yn cysylltu gyda fi’n gyson ac mae gen i syniadau cryf ynglŷn â beth ddylai ddigwydd ond mae’n rhaid i’n gwleidyddion ni wrando,” meddai Beti.

Bydd Beti hefyd yn cynnal digwyddiad yn y Senedd er mwyn cyflwyno ei phrofiadau hi a phrofiadau gofalwyr eraill i Aelodau Cynulliad.

Mae’r syniadau yn cael eu cyflwyno i’r Aelodau a’r Gweinidog dros Ofal Cymdeithasol a Phlant, Huw Irranca-Davies. “Un thema gyson ddaeth o fy sgyrsiau gyda phobl yn yr Eisteddfod oedd, unwaith bod y diagnosis yn cael ei roi, bod pobl yn cael eu gyrru adref, heb unrhyw syniad at bwy i droi. Yr hyn mae gofalwyr eisiau yw gweithiwr allweddol fydd gyda nhw o’r dechrau’n deg ac sy’n aros gyda nhw tan y diwedd un.”

Ar ddiwedd y rhaglen mae Beti yn mynd ar daith emosiynol i Wlad Groeg, i Ynys Samos, lle treuliodd hi a David wyliau hapus dros gyfnod o flynyddoedd. Nawr a hithau yno ar ei phen ei hun bydd nifer o atgofion chwerw-felys yn llifo’n ôl i’r cof.

Author

Tags