Home » Lansio strategaeth adfywio gwledig
Cymraeg

Lansio strategaeth adfywio gwledig

DAETH dros 100 o bobl o bob maes i weld strategaeth adfywio gwledig y Cyngor yn cael ei lansio.

Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghastellnewydd Emlyn, ac roedd yn gyfle i bobl glywed rhagor am strategaeth Symud Sir Gaerfyrddin Wledig Ymlaen, sy’n canolbwyntio ar gryfhau economïau lleol, creu swyddi a chyfleoedd busnes, a diogelu’r Cymraeg.

Rhoddodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Emlyn Dole, a’r Prif Weithredwr, Wendy Walters, gyflwyniadau ar symud ymlaen.

Bu’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Faterion Gwledig, sef y Cynghorydd Cefin Campbell, yn trafod canfyddiadau ac argymhellion adolygiad gan grŵp gorchwyl trawsbleidiol a sefydlwyd i ymchwilio, deall a chynllunio ar gyfer yr hyn sydd ei angen i greu cymunedau ac economïau gwledig mwy cynaliadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole: “Roedd cynrychiolaeth dda yno, ac roedd yn gyfle i drafod argymhellion a gyflwynwyd gan Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i helpu ein hardaloedd gwledig i dyfu, ffynnu, a bod yn hunangynhaliol – cymunedau sy’n cynnig cyfleoedd i bawb.

Dylai pawb sy’n byw ac yn gweithio yn un o’n cymunedau gwledig weld hwn yn gyfle i gymryd rhan a chyfrannu – nid yw hwn yn rhywbeth y gallwn ni fel Cyngor ei wneud ar ein pen ein hunain, ac rydym yn croesawu pob cyfraniad gan drigolion, busnesau a sefydliadau. ”

Wrth wraidd y strategaeth newydd y mae pwyslais ar greu swyddi, tai fforddiadwy, a chyfleoedd busnes fel bod pobl ifanc yn aros ac yn ymgartrefu yn Sir Gaerfyrddin. Mae pwyslais hefyd ar annog pobl ifanc i ddychwelyd i’w gwreiddiau.

Dyma’r tro cyntaf erioed i strategaeth eang gael ei llunio gan y Cyngor er mwyn canolbwyntio’n benodol ar ardaloedd gwledig.

Mae dros 60 y cant o boblogaeth Sir Gaerfyrddin yn byw mewn ardal wledig a bwrdd gweithredol y Cyngor oedd y cyntaf i greu portffolio penodol i gynrychioli materion gwledig.

Bwriwch olwg ar yr adroddiad a’i argymhellion ➡ https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/symud-sir-gâr-wledig-ymlaen/

online casinos UK

Author