Home » Pleser o’r Mwyaf
Cymraeg

Pleser o’r Mwyaf

DEWCH i’r Man a’r Lle yn Aberteifi i wrando ar wyth o fawrion y genedl yn cyflwyno pum peth sydd yn datgelu rhywbeth am eu hanes eu hunain, boed hynny ar ffurf hoff gerddi a darnau o ryddiaith neu wrthrychau sydd ag arwyddocâd personol.

Byddwn yn cwrdd yn fisol (heblaw Rhagfyr) rhwng Hydref a Mehefin i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Cynhelir y cyfarfod cyntaf ar ddydd Sadwrn, 19 Hydref am 11yb tan 12.30yp yng nghwmni’r Prifardd Idris Reynolds.

Tocynnau wrth y drws £5. Te, coffi a chacen £1.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Natalie Morgan (ebost: [email protected]), Helen Thomas ([email protected]) neu Richard Vale ([email protected]).

Fe fydd y cyfarfodydd hyn yn addas i ddysgwyr profiadol, a byddwn yn paratoi taflenni geirfa i chi.

Dewch yn llu i gefnogi’r Brifwyl trwy joio mas draw!

Author